17/03/2026
Mwy na 350 o breswylwyr yn elwa o weithdai Cynhwysiant Digidol

Mae cannoedd o breswylwyr Sir Ddinbych wedi gwella eu sgiliau digidol trwy brosiect Cynhwysiant Digidol.
Nid yw hyd at 9% o boblogaeth Sir Ddinbych ar-lein, o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o 7%. Golyga hyn bod yna ddinasyddion nad oes ganddynt fynediad at, y sgiliau na’r hyder i ddefnyddio technoleg ddigidol, a does gan tua 22% o’r boblogaeth ddim sgiliau mewn o leiaf un o’r 5 maes sgiliau digidol sylfaenol.
Mae’r prosiect Cynhwysiant Digidol, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU drwy Gyngor Sir Ddinbych, a ddarperir gan CWMPAS, wedi gwella hyder digidol, lleihau teimladau ynysig, gwella cyflogadwyedd a gwytnwch economaidd drwy eu rhaglen gefnogaeth wedi’i theilwra.
Ers i’r prosiect gael ei gyflwyno ar draws y sir, mae wedi cefnogi mwy na 350 o unigolion yn Sir Ddinbych drwy ddarparu hyfforddiant sgiliau bywyd a digidol hanfodol, gyda 110 o gyfranogwyr yn derbyn cefnogaeth ddwyieithog wedi’i theilwra.
Trwy ystod o sesiynau galw heibio, gweithdai a chyrsiau sgiliau hanfodol, fe wnaeth y sawl a fynychodd ddysgu sgiliau digidol pwysig megis siopa’n ddiogel ar-lein, iechyd a lles digidol a sut i wario ac arbed arian ar-lein.
Roedd y prosiect hwn hefyd yn darparu cefnogaeth trwy grantiau/ talebau ar gyfer cyfarpar a data, galwadau ffôn i addysgu unigolion sut i ddefnyddio gwefannau ac apiau ac atgyfeiriadau i’r gwasanaethau addysg a chyflogadwyedd.
Meddai Ron, rheolwr y sesiwn Cynhwysiant Digidol:
“Mae’r sesiynau wedi profi’n llwyddiant ysgubol, gan ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol iawn, yn ogystal â chreu amgylchedd croesawgar a chefnogol. Mae’r rhai sy’n mynychu wedi gwneud ffrindiau newydd ac wedi meithrin hunanhyder y gellir ei ddefnyddio ar gyfer agweddau eraill o’u bywydau. Mae’r sesiynau’n rhai hwyliog, hamddenol a diddorol bob amser”.
Meddai Samantha Edwards, Rheolwr Prosiect Cwmpas:
“Pwrpas Hyder Digidol Sir Ddinbych, sef prosiect a ddarperir gan Cwmpas, yw cefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau digidol sylfaenol, gan roi’r hyder i bobl fynd ar-lein, drwy gynnig cefnogaeth ac arweiniad cyfeillgar, wyneb yn wyneb, yn eu cymuned eu hunain.
“Mae diogelwch ar-lein yn ymwneud â sicrwydd ac arweiniad, ac mae Hyder Digidol Sir Ddinbych yn creu gofod lle gall pobl ofyn cwestiynau, gwella eu sgiliau digidol a theimlo’n fwy diogel ar-lein”.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae’r prosiect hwn yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd ati i gynyddu lefelau cynhwysiant digidol yn Sir Ddinbych, ac mae’n amlwg bod llawer o’n preswylwyr wedi elwa o’r sesiynau hyn.
“Mae llwyddiant y cynllun hwn yn enghraifft arall o waith Cyngor Sir Ddinbych gyda phartneriaid er budd ein preswylwyr”.
Nodiadau i Olygyddion:
Ariennir y gweithdai hyn gan Raglen Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU drwy Gyngor Sir Ddinbych a chânt eu darparu gan Hyder Digidol Sir Ddinbych. I ddysgu mwy neu archebu eich lle ar sesiwn hyfforddi, ffoniwch 0300 111 5050, dewiswch opsiwn 2 am gymorth digidol ac yna opsiwn 1 ar gyfer tîm Hyder Digidol Sir Ddinbych. Fel arall, gallwch anfon neges e-bost at: dcdenbighshire@cwmpas.coop