Mawrth 2026

18/03/2026

Dweud eich dweud gyda'n arolwg i siapio dyfodol Sir Ddinbych

Mae trigolion o bob oedran yn cael eu hatgoffa i ddweud eu dweud yn yr arolwg “Dewch i Siarad: Byw yn Sir Ddinbych”.

Bwriad yr arolwg gan Gyngor Sir Ddinbych yw casglu barn a safbwyntiau pobl ynglŷn â bywydau pobl o bob oed yn eu cymunedau lleol a’r gwasanaethau y maent yn eu defnyddio.

Mae’n rhoi cyfle i bobl rannu’r hyn sy’n bwysicaf iddynt yn eu bröydd.

Meddai’r Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Cydraddoldeb, Polisi a Strategaeth Gorfforaethol ac Asedau Strategol: “Os nad ydych wedi ymateb i’r arolwg eto, gwnewch hynny da chi gan fod hwn yn gyfle go iawn i drigolion hen ac ifanc wneud gwahaniaeth i’w hardaloedd lleol. Hoffem glywed gan gynifer o bobl ag sy’n bosibl i’n helpu i ddeall beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen ei wella wrth symud ymlaen.

“Po fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan, y mwyaf manwl fydd y darlun a gawn ni o beth sy’n bwysig i gymunedau yn y sir a sut y gallwn ddatblygu gwasanaethau i’r dyfodol i’n holl drigolion yn Sir Ddinbych.

Anogir pobl i gymryd rhan yn yr arolwg a’i rannu â theulu, ffrindiau a chymdogion i sicrhau ein bod yn clywed cymaint o leisiau â phosib.

Mae’r arolwg ar gael i bawb sy’n byw yn Sir Ddinbych ac mae modd ei gwblhau ar-lein yma

Gellir cael copi ar bapur hefyd o unrhyw lyfrgell yn y sir.

Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau. A fyddech chi cystal ag ymateb erbyn 31/03/2026.

Oeddech chi'n gwybod bod ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych a bod uchafbwyntiau'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni i'w gweld yma.

 

Comments