04/03/2026
Ysgolion yn canu yn Siambr y Cyngor fel rhan o ddathliad Dydd Gŵyl Dewi
Fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi eleni, gwahoddwyd ysgolion lleol o Ruthun i Siambr y Cyngor i ganu o flaen Pwyllgor Llywio’r Gymraeg.
Dathliadau yn y Siambr, Ysgol Pen Barras
Bu i ddisgyblion o Ysgol Borthyn, Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras ganu caneuon Cymraeg traddodiadol.
Roedd y disgyblion yn amrywio o flwyddyn un i flwyddyn chwech.
Rhoddwyd Baner Dewi Sant i bob disgybl (croes aur ar gefndir du) i fynd yn ôl i’r ysgol gyda nhw.

Ysgol Borthyn
Mae Pwyllgor Llywio’r Gymraeg yng Nghyngor Sir Ddinbych yn darparu arweinyddiaeth a throsolwg strategol i sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ar draws ei wasanaethau, ac yn cefnogi datblygiad y Gymraeg o fewn y sefydliad a’r gymuned ehangach.
Ysgol Stryd y Rhos
Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Roedd yn bleser croesawu disgyblion o ysgolion lleol i’r cyfarfod heddiw.
Hoffwn ddiolch iddynt am ddod ac am eu canu hyfryd, roedd yn ffordd wych o ddathlu ein nawddsant.”