16/03/2026
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn agor cyfleoedd i bobl ifanc drwy brosiect ‘Y Môr a Mi’
Cymerodd pobl ifanc 16–25 oed o bob cwr o Ogledd Cymru ran yn ‘Y Môr a Mi’, rhaglen dair rhan a gynlluniwyd i ysbrydoli ymwybyddiaeth amgylcheddol, datblygu sgiliau ymarferol, ac agor llwybrau i wirfoddoli a gyrfaoedd sy’n seiliedig ar natur.
Wedi’i chyflwyno gan Sir Ddinbych yn Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau gwirfoddol lleol, cynhaliwyd y rhaglen drwy gydol mis Chwefror a dechrau mis Mawrth.
- Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf ar 18 Chwefror yn yr RNLI yn y Rhyl, gan gyflwyno cyfranogwyr i ddiogelwch arfordirol drwy sesiwn rhyngweithiol ar ddiogelwch dŵr a golwg fewnol ar weithrediadau’r bad achub.
- Dilynnwyd hyn ar 25 Chwefror yn Resource yn Rhuthun, lle bu pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithdy ymarferol “Troi sbwriel yn drysor”, gan drawsnewid gwastraff plastig yn eitemau creadigol ac ymarferol wrth ddysgu am effaith llygredd plastig.
- Cynhaliwyd y digwyddiad olaf ar 4 Mawrth yn RSPB Môn, lle bu’r cyfranogwyr yn archwilio’r warchodfa natur, cymryd rhan mewn sbotio bywyd gwyllt, ac ymgymryd â chyfnodi natur i ddyfnhau eu cysylltiad â’r amgylchedd a chefnogi llesiant.
Tynnwyd y llun yn ystod sesiwn yr RNLI yn Y Rhyl
Gyda’i gilydd, cryfhaodd y sesiynau ddealltwriaeth amgylcheddol, annog creadigrwydd, a thynnu sylw at lwybrau gwirfoddoli a gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â chadwraeth, cynaliadwyedd, a diwydiannau arfordirol lleol.
Dywedodd Tyler Turner, Hyfforddwr Llesiant a Gwydnwch yn Sir Ddinbych yn Gweithio:
“Cafodd rhaglen ‘Y Môr a Mi’ ei chreu i ysbrydoli chwilfrydedd, meithrin hyder, a helpu pobl ifanc i ddarganfod cyfleoedd newydd mewn gwirfoddoli a phrosiectau cymunedol. Mae hefyd yn datblygu sgiliau ar gyfer gyrfaoedd y dyfodol sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd, cadwraeth, diwydiannau arfordirol a’r celfyddydau. Ein nod yw creu rhaglen gynhwysol a hygyrch lle gall pobl ifanc archwilio eu diddordebau wrth deimlo’n gefnogedig, hybu eu hyder, a datblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol a fydd yn eu helpu i gyrraedd eu nodau gyrfa.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin a Amddifadaeth:
“Mae Y Môr a Mi yn cyfrannu’n uniongyrchol at ein huchelgeisiau economaidd hirdymor ar gyfer Sir Ddinbych. Fel y nodir yn ein strategaeth economaidd newydd, mae gwella mynediad at gyflogaeth o ansawdd ac annog pobl ifanc i mewn i yrfaoedd cynaliadwy yn hanfodol i greu economi leol fwy llewyrchus a gwydn. Mae mentrau fel Y Môr a Mi’ yn helpu i sicrhau bod ein pobl ifanc yn barod i fanteisio ar y cyfleoedd a fydd yn gyrru twf Sir Ddinbych yn y blynyddoedd i ddod.”
I archwilio digwyddiadau yn y dyfodol, cyfleoedd hyfforddi a’r cymorth sydd ar gael, ewch i wefan Sir Ddinbych yn Gweithio.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei hariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith Plus Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd fwyaf dan anfantais yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.