26/03/2026
Byddwch yn ailgylchwyr g-ŵy-ch y Pasg hwn

Fe anogir preswylwyr i fod yn ŵy-ch y Pasg hwn drwy gofio ailgylchu dros y gwyliau.
Fe fydd criwiau Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Sir Ddinbych yn casglu fel yr arfer dros wyliau’r Pasg.
Gan ei bod hi’n gyfnod o ddathlu drwy gyfnewid nifer o anrhegion a chardiau, mae yna ffyrdd y gall preswylwyr helpu i wneud gwahaniaeth i ailgylchu dros y cyfnod yma.
Mae nifer o wyau Pasg yn dod â llai o ddeunydd pecynnu erbyn hyn, neu maen nhw wedi’u pecynnu mewn dull sy’n fwy addas i’w hailgylchu, a bydd hyn yn helpu â chasgliadau.
Wrth i chi fwynhau’r wyau siocled dros y Pasg, cofiwch wasgu’r blychau cardfwrdd i’w hailgylchu a’u rhoi yn eich bag glas a gwiriwch a oes modd ailgylchu rhai o’r hambyrddau plastig a ddaw gyda nhw. Drwy ailgylchu blychau eich wyau Pasg, rydych chi’n cefnogi ffordd gynaliadwy o helpu i gynhyrchu eitemau eraill megis blychau grawnfwyd ac wyau ffres, a hyd yn oed pecynnau ar gyfer parseli allai ddod yn ôl ar stepen eich drws.
Cofiwch, pan fyddwch chi wedi agor eich wyau Pasg, fe ellir ailgylchu mwyafrif y ffoil. Gwasgwch y ffoil yn belen a’i roi yn y cynhwysydd cywir ar gyfer ffoil. Os bydd yn ailagor ar ôl ei wasgu’n belen mae’r deunydd wedi’i lamineiddio ac fe ddylid ei roi yn y bin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Os ydych chi wedi derbyn cardiau Pasg eleni, fe ellir ailgylchu’r rhain gartref ynghyd â’r amlenni, cyn belled nad oes yna gliter neu ffoil arnynt, ac os oes, mae angen eu rhoi yn y bin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Wrth i nifer o deuluoedd eistedd i lawr am brydau bwyd dros y Pasg, mae hi’n syniad da edrych sut i ailddefnyddio unrhyw fwyd sydd dros ben i wneud llawer mwy o ddanteithion blasus dros y gwyliau. Ar gyfer y gwastraff bwyd na allwch eu bwyta megis plisgyn ŵy, cofiwch ddefnyddio eich bin gwastraff bwyd.
Os ydych chi’n bwriadu mynd ati i roi trefn ar eich gardd y Pasg hwn cofiwch y gellir ailgylchu unrhyw wastraff gardd mewn i gompost defnyddiol drwy’r gwasanaeth gwastraff gardd, ond cofiwch gofrestru i fod yn gymwys am gasgliadau rhwng mis Ebrill 2026 a diwedd mis Mawrth 2027.
Meddai Paul Jackson, Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd: “Fe all y Pasg arwain at gynnydd mewn eitemau gartref y gellir eu hailgylchu. Rydym eisiau annog preswylwyr i barhau â’u cefnogaeth i wneud gwahaniaeth i amgylchedd Sir Ddinbych drwy ddewis yr opsiynau cywir i ailgylchu’r eitemau yma ac fe hoffwn i ddiolch iddynt am eu hymdrechion gwych.”
Os nad ydych chi’n siŵr beth sy’n mynd i ble, gallwch wirio canllaw ailgylchu A i Y ar y wefan.