17/03/2026
System storio batris newydd yn helpu effeithlonrwydd ynni cartref gofal

Mae gwaith wedi’i gwblhau i wella effeithlonrwydd ynni mewn cartref gofal yng Nghorwen.
Mae timau Ynni a Fflyd Cyngor Sir Ddinbych wedi cwblhau prosiect i osod system storio ynni mewn batris (BESS), ochr yn ochr â phaneli solar 21.36kWp yng Nghysgod y Gaer i helpu i ddefnyddio ynni sy’n cael ei gynhyrchu gan baneli ffotofoltäig yr adeilad.
Mae'r tîm wedi rheoli prosiectau ar draws adeiladau'r Cyngor i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau a lleihau allyriadau yn rhan o ymgyrch y Cyngor i leihau ei ôl troed carbon ar ôl datgan Argyfwng Hinsawdd a Natur yn ystod 2019.
Maen nhw wedi gweithio yng Nghysgod y Gaer yn y gorffennol er mwyn gosod paneli solar ffotofoltäig 10.2kW, goleuadau LED ac addasu system wresogi'r safle. Gwnaeth y gwaith cyfunol hwn ostwng y defnydd o nwy o gyfartaledd o 750kwh i 200kwh y dydd a gostyngodd allyriadau carbon tua 10 tunnell y flwyddyn.
Mae gosod y batri 40kWh wedi cael cymorth ariannol gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn rhan o Grant EVCI a ZEV 25-26.
Mae dau gerbyd trydan yn gweithredu o'r safle bob dydd, sy’n cefnogi'r gymuned leol ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Mae defnydd cyfunol blynyddol cyfartalog y ddau gerbyd yn fwy na 10,000kWh o drydan y flwyddyn, sy’n galluogi mwy na 30,000 milltir o deithio heb allyriadau yn dod o’r bibell fwg, ac mae’n cyfrannu at leihau llygredd aer ledled y sir.
Mae batris solar yn storio'r trydan sy’n cael ei gynhyrchu gan baneli ffotofoltäig yn ystod y dydd fel y gellir ei ddefnyddio pan nad yw'r paneli'n cynhyrchu trydan. Gellid defnyddio'r ynni sydd wedi'i storio yn y nos neu yn ystod dyddiau cymylog iawn pan nad yw eich paneli solar yn cynhyrchu digon o drydan, sy’n helpu i gynnal costau defnyddio ynni hirdymor is. Disgwylir i'r paneli ychwanegol arbed tua 19,440kWh o drydan a 3.76 tunnell o allyriadau CO2 bob blwyddyn.
Dywedodd y Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym ni wedi ymrwymo i leihau ein hallyriadau carbon a’n defnydd o ynni ar draws ein holl adeiladau. Rydym ni’n ddiolchgar i drigolion a staff Cysgod y Gaer am ganiatáu i'r gwaith hwn gael ei wneud er mwyn parhau i ostwng costau defnyddio ynni ac allyriadau carbon ar y safle.”