Mawrth 2026

09/03/2026

Rhaglen newydd Cysylltu â Gwaith gwerth £12.9m i’w lansio yng Ngogledd Cymru

Mae rhaglen gyflogaeth â chymorth newydd ar fin agor yng Ngogledd Cymru ym mis Mai 2026, gan gynnig cymorth cyflogaeth wedi’i deilwra i bobl anabl, pobl â chyflyrau iechyd a’r rhai sy’n wynebu rhwystrau cymhleth wrth geisio cael gwaith cyflogedig, cynaliadwy.

Cyngor Sir Ddinbych yw’r Corff Atebol a byddant yn arwain y gwaith o ddarparu rhaglen Cysylltu â Gwaith mewn partneriaeth â’r pum awdurdod lleol arall yng Ngogledd Cymru [Conwy, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam].

Bydd Gogledd Cymru yn elwa o £12.9m dros 4 blynedd i ddarparu cymorth cyflogaeth arbenigol a bwrpasol i 3,555 o bobl sydd eisiau gweithio, dychwelyd i waith neu sydd angen cymorth i gynnal eu cyflogaeth bresennol.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin a Amddifadaeth:

“Rydym yn gwybod bod gan bobl anabl a’r rhai â chyflyrau iechyd gymaint i’w gynnig i’n cymunedau, ac eto mae gormod yn cael eu gadael heb y cymorth sydd ei angen arnynt i symud i waith ystyrlon.

“Fel y corff atebol ar gyfer Cysylltu â Gwaith ar draws Gogledd Cymru, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n partneriaid, sefydliadau lleol a’n cydweithwyr iechyd i gael gwared ar rwystrau, meithrin llesiant, a datgloi potensial.

“Mae’r rhaglen hon yn cyd-fynd yn agos â’n hymrwymiad i dwf economaidd a threchu amddifadedd, gan gefnogi preswylwyr i ddatblygu sgiliau, meithrin hyder a chael mynediad at swyddi da, cynaliadwy.

“Ein nod yw sicrhau bod gan bawb sy’n gallu ac sydd eisiau gweithio y cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu.”

Dywedodd Gary Jones, Rheolwr Rhaglen Ranbarthol Cysylltu â Gwaith:

“Nod Cysylltu â Gwaith fydd dod ag unigolion, iechyd, cyflogwyr a phartneriaid darparu at ei gilydd gyda diben cyffredin o ddatgloi potensial, creu cyfleoedd ystyrlon, a helpu pobl i ffynnu trwy arloesi a chydweithio.”

Mae Cysylltu â Gwaith yn rhaglen wirfoddol ac yn agored i unrhyw un sydd dros 16 oed ac sydd eisiau gweithio, sy’n berson anabl, sydd â chyflwr iechyd, neu sy’n wynebu rhwystrau cymhleth i waith. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio o amgylch anghenion a chyfleoedd lleol, gan sicrhau bod cymorth yn cael ei deilwra i ofynion cymunedau ledled Gogledd Cymru.

Bydd cyfranogwyr yn gallu cael mynediad at ystod o gymorth personol, gan gynnwys:

  • Cynghorwyr cyflogaeth arbenigol sy’n gweithio un-i-un gyda chyfranogwyr i ddeall eu hiechyd, eu sgiliau a’u hanghenion cyflogaeth.
  • Cynghorwyr wedi’u lleoli o fewn lleoliadau gofal iechyd, gan gynnwys meddygfeydd a gwasanaethau iechyd meddwl.
  • Cymorth i ymgysylltu â chyflogwyr heb orfod llywio prosesau ymgeisio cymhleth.
  • Cymorth mewn gwaith parhaus i gyfranogwyr a chyflogwyr er mwyn helpu i sicrhau llwyddiant hirdymor.

Unwaith y bydd y gwasanaeth yn agor, bydd preswylwyr yn gallu dod o hyd i wybodaeth leol a llwybrau atgyfeirio trwy wefan eu cyngor.

Mae Cysylltu â Gwaith wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU ac mae’n rhan allweddol o strategaeth Cael Prydain i Weithio Llywodraeth y DU.

Comments