Mawrth 2026

20/03/2026

Cynefinoedd newydd yn cefnogi natur y Rhyl

Mae cynefin newydd yn datblygu i gefnogi natur mewn gwarchodfa yn y Rhyl.

Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi cwblhau gwaith ar bwll cynefinoedd newydd yng Ngwarchodfa Natur Coetir Cymunedol Parc Bruton yn ddiweddar.

Ariannwyd datblygiad y pwll drwy'r prosiect Natur er budd Iechyd sy'n cael ei ariannu gan gyllid grant Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Roedd y gwaith ar y safle yn cynnwys cloddio, gosod leinin clai bentonit a chodi ffensys i atal cŵn.

Mae'r ardal wedi'i lleoli ger prosiect pwll a gwblhawyd yn 2024, gan helpu i ymestyn y gefnogaeth i gynefin natur leol ac amrywio golwg y warchodfa a'r coetir ar gyfer y cymunedau cyfagos ac ymwelwyr â'r safle.

Gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr Natur er budd Iechyd, mae ceidwaid cefn gwlad wedi plannu plygiau blodau gwyllt o amgylch glannau'r pwll newydd i ddarparu cymorth mawr i natur leol.

Mae'r grŵp wedi plannu amrywiaeth o rywogaethau sy'n addas i’w tyfu mewn amgylchedd dyfrol.

Mae hyn yn cynnwys llysiau'r sipsiwn, planhigyn gwlyptir a geir fel arfer ar hyd ymylon llynnoedd, pyllau, nentydd, camlesi a chorsydd. Mae llysiau'r sipsiwn yn ffynhonnell hanfodol o neithdar a phaill i wenyn a phryfed peillio eraill.

Plannwyd blodau pengaled hefyd ger y pwll newydd a fydd yn darparu ffynhonnell gyson o neithdar i loÿnnod byw a gwenyn.

Ochr yn ochr â'r pwll presennol, bydd yr ychwanegiad newydd hwn yn helpu madfallod dŵr yng Ngwarchodfa Natur Parc Bruton, yn benodol y madfallod dŵr cribog, a gaiff eu gwarchod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981.

Dywedodd Sasha Taylor, Ceidwad Cefn Gwlad:  “Mae’r cynefinoedd dyfrol hyn hefyd yn hanfodol i’r boblogaeth infertebrata yn ogystal ag amrywiaeth o amffibiaid.  Gobeithiwn y bydd y madfallod dŵr cribog o amgylch y safle hwn yn elwa o'r datblygiad, ochr yn ochr â gweision y neidr ac infertebratau eraill sy'n dibynnu ar ddŵr addas am ran o'u cylch bywyd.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant Cyngor Sir Ddinbych: “Mae Coetir Cymunedol Parc Bruton wedi datblygu i fod yn lle gwych i gefnogi bywyd gwyllt a lles trigolion lleol sy’n ymweld â’r safle i gerdded o amgylch y llwybrau niferus.

“Mae’r darn o dir gwych hwn yn y Rhyl yn rhoi cyfle mor arbennig i ni ddiogelu a chynnal ein natur leol i’r gymuned ei mwynhau, ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut y gall y pwll newydd hwn helpu i gynnal Madfallod Dŵr Cribog wrth symud tua’r dyfodol.”

 

 

Comments