Mawrth 2026

23/03/2026

Cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn penodi contractwr ar gyfer cynllun mawr newydd Prosiect Archifau Creadigol  

Mae Cyngor Sir y Fflint, gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ddinbych, wedi penodi Wynne Construction fel y prif gontractwr ar gyfer y Cyd-Brosiect Archifau, gan nodi carreg filltir arwyddocaol yn natblygiad un o gynlluniau pwysicaf Gogledd Ddwyrain Cymru.

Ffurfiwyd Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWA) ym mis Ebrill 2020 pan ddaeth Archifau Sir Ddinbych (Rhuthun) a Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint (Penarlâg) ynghyd i gynnig gwasanaeth ar y cyd i’r rhanbarth, gan uno eu casgliadau archifol o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn gofalu am hanes ysgrifenedig a darluniadol unigryw ac amhrisiadwy’r rhanbarth, sy’n dyddio’n ôl dros 900 o flynyddoedd.

Nod y prosiect hwn yw sefydlu gwasanaeth archif cryfach, mwy gwydn a chynaliadwy i’r rhanbarth, gyda adeilad archif newydd ar dir cyfagos i Theatr Clwyd, i gartrefu’r casgliadau a’r staff ac i ddarparu rhaglen ymgysylltu gynhwysfawr i ddenu cynulleidfa ehangach.

Mae’r prosiect, o’r enw ‘Archifau Creadigol’, wedi’i alluogi gan grant datblygu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ynghyd â chyfraniadau ariannol gan awdurdodau lleol Sir y Fflint a Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru. Mae’r cyllid yn cefnogi cam cychwynnol y prosiect, gan alluogi dyluniadau pensaernïol manwl, cynllunio busnes a gweithgareddau cyn cais ail rownd am gyllid yn 2026 a chaniatâd cynllunio. Os bydd hyn yn llwyddiannus, disgwylir i waith adeiladu ar y ganolfan archif newydd ddechrau ddiwedd gwanwyn/haf 2027 a bod yn barod i agor yn ystod hydref 2028.

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae hwn yn gam mawr ymlaen i’r prosiect ac i’r gymuned ehangach. Mae Wynne Construction yn dod â hanes cryf o gyflawni datblygiadau o ansawdd uchel, ac rydym yn hyderus y byddant yn ein helpu i wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer y prosiect hwn. Bydd y cynllun yn darparu manteision hirdymor i drigolion, busnesau ac ymwelwyr, ac rydym yn falch o symud i’r cam nesaf.”

Dywedodd y Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet dros Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden:

“Mae Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn gyfoethog o ran treftadaeth. Rydym wrth ein bodd bod y penodiad hwn wedi’i wneud fel y gallwn ddatblygu’r prosiect ymhellach, a fydd yn sicrhau y caiff ein hanes bendigedig ei gadw ar gyfer cenedlaethau i ddod ac yn rhoi cyfle i bobl leol ac ymwelwyr archwilio a darganfod y straeon hynod o ddiddorol sydd o fewn y casgliadau.”

Dywedodd Chris Wynne, Cyfarwyddwr Rheoli Wynne Construction:

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi’n penodi i gyflawni’r prosiect trawsnewidiol hwn. Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Chynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint i greu datblygiad sy’n cefnogi twf, cynaliadwyedd a lles cymunedol.”

Mae Wynne Construction yn gweithio’n agos gyda’r cyngor, rhanddeiliaid a chymunedau lleol i gwblhau’r dyluniadau a pharatoi cynigion manwl. Cynhelir gweithgareddau ymgysylltu ac ymgynghori ym mis Mehefin 2026.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru.

I unrhyw un sydd am ddysgu mwy am y gwasanaeth y mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn ei gynnig neu am y newyddion diweddaraf ar y prosiect Archifau Creadigol, ewch i’w gwefan nhw sef https://www.agddc.cymru/.

Comments