18/03/2026
Ffioedd Cartrefi Gofal ar gyfer 2026/27 i’w drafod yn Cabinet
Bydd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych yn trafod yr argymhellion ffioedd cartrefi gofal a argymhellir yr wythnos nesaf mewn cyfarfod Cabinet yn Neuadd y Sir, Rhuthun.
Bydd y Cyngor yn gwario tua £16 miliwn ar ofal preswyl a nyrsio i bobl hŷn yn ystod 2026/27, gan amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn y sir.
Os cânt eu cymeradwyo, bydd y ffioedd a argymhellir ar gyfer 2026/27 yn parhau i ariannu dros 355 o leoliadau ar draws 51 o gartrefi gofal, buddsoddiad sy'n cael ei lywio gan Care Cubed.
Mae Care Cubed yn fethodoleg o osod ffioedd sy’n gredadwy, yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth, a sy’n gyson. Mae'r dull hwn yn caniatáu i'r Cyngor ddeall sut mae darparwyr yn gwario arian cyhoeddus i sicrhau bod ffioedd gofal yn deg, yn gyfartal ac yn darparu'r gwerth gorau am arian.
Gyda gofal cymdeithasol yn cyfrif am bron i draean o gyllideb y Cyngor - a'r galw yn parhau i gynyddu - mae'n hanfodol bod y broses o osod ffioedd yn parhau i fod yn dryloyw ac yn darparu gwerth am arian i drigolion a darparwyr.
Mae'r Cyngor eisoes wedi ymgynghori â darparwyr ac wedi ystyried eu hadborth yn ofalus.
Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Mae cefnogi trigolion sy’n dibynnu ar ofal cymdeithasol yn un o gyfrifoldebau pwysicaf y Cyngor, ac mae gofal cymunedol yn parhau i gyfrif am y gyfran fwyaf o’n cyllideb gofal cymdeithasol i oedolion.
Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod trigolion yn derbyn y gofal a chefnogaeth safonol y maent ei angen, gan osod ffioedd mewn ffordd sy’n deg, yn gynaliadwy ac yn dryloyw i ddarparwyr a threthdalwyr lleol.
Rydym yn cydnabod y rôl hanfodol y mae darparwyr gofal yn ei chwarae wrth gefnogi ein cymunedau, ac mae’r Cyngor yn parhau i weithio’n agos gyda nhw i sicrhau bod trigolion yn derbyn gofal o ansawdd uchel nawr, ac yn y dyfodol.”