25/06/2025
Anrhydeddu Gwirfoddolwyr Natur Er Budd Iechyd yng Ngwobrau Gwirfoddolwyr

Cynhaliodd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych seremoni wobrwyo arbennig i gydnabod cyfraniadau ardderchog gwirfoddolwyr ledled y sir.
Mae’r tîm Natur Er Budd Iechyd yn falch o gyhoeddi fod pedwar o’i wirfoddolwyr diwyd ymysg yr enillwyr ac wedi ennill gwobrau mewn tri o’r wyth o gategorïau: Arweinydd Tîm, Gwirfoddolwr Ifanc a Hyrwyddo Diwylliant a Threftadaeth Cymru.
Yr enillwyr oedd:
- Vera Arrowsmith – Arweinydd Tîm
- Zen Hoppe – Arweinydd Tîm
- Cai Scott – Gwirfoddolwr Ifanc
- Myfanwy Lloyd Evans – Hyrwyddo Diwylliant a Threftadaeth Cymru
Cynllun cydweithredol yw Natur Er Budd Iechyd, sy’n cysylltu pobl a chymunedau â byd natur er mwyn hybu eu hiechyd a’u lles. Gwirfoddolwyr sydd wrth wraidd y rhaglen ac maent yn chwarae rhan hollbwysig wrth sicrhau bod y prosiect yn dod â chymaint o fudd â phosib i’n cymunedau yn Sir Ddinbych.
Yn ne’r sir, mae Myfanwy a Cai wedi cael effaith aruthrol. Mae Myfanwy’n wybodus iawn am arddwriaeth ac yn frwd dros y Gymraeg a bu hynny’n gaffaeliad yng Ngardd Gymunedol Conwy, lle mae ei natur dwymgalon a’i balchder mewn diwylliant yn hwb mawr i’r man cymunedol prysur hwn. Gwirfoddolwr ifanc ac uchelgeisiol yw Cai, ac mae wedi datblygu o gyfranogwr i arweinydd – gan gychwyn ei fusnes gwaith coed ei hun a bellach yn cynnal sesiynau naddu pren ar gyfer y rhaglen.
Vera a Zen sy’n arwain y grŵp Cerdded Nordig poblogaidd sy’n mynd am dro bob dydd Iau yn Loggerheads. Maent wedi cydweithio â Natur Er Budd Iechyd ers tro bellach, ac wedi cymhwyso fel hyfforddwyr Cerdded Nordig drwy’r rhaglen. Mae eu harweinyddiaeth a’u hymroddiad yn sicrhau bod y grŵp yn cadw’n weithgar a chroesawgar, gan alluogi’r cyfranogwyr i elwa ar fuddion ymarfer corff yn yr awyr agored i’w hiechyd corfforol a meddyliol.
Meddai Charlotte o’r tîm Natur Er Budd Iechyd:
“Rydyn ni’n eithriadol o falch o Vera, Zen, Cai a Myfanwy. Mae eu hymrwymiad, eu creadigrwydd a’u hysbryd cymunedol yn ymgorffori popeth y bwriadwn ei wneud drwy’r rhaglen. Maen nhw’n llawn haeddu’r gwobrau hyn am eu gwaith caled a’r effaith gadarnhaol maent yn ei chael ar fywydau pobl eraill.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Mae’r gwirfoddolwyr oll yn esiampl wych o’r ffordd y gall gweithredu’n lleol greu newid parhaol. Nid yn unig bod eu gwaith â Natur Er Budd Iechyd yn hybu lles pobl ond mae hefyd yn atgyfnerthu ein cymunedau a’n cysylltiad â byd natur. Rydyn ni’n falch o glodfori eu llwyddiant a’r gwahaniaeth maent yn ei wneud ledled Sir Ddinbych.”
I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â Natur Er Budd Iechyd, cliciwch yma.