25/06/2025
Planhigfa’n meithrin gloÿnnod byw
Mae hi’n Wythnos Genedlaethol Pryfetach, ac mae ein Planhigfa Goed yn Llanelwy yn gwneud ei rhan tu mewn a thu allan i helpu preswylwyr bach natur.
Mae’r blanhigfa goed yn tyfu miloedd o flodau gwyllt bob blwyddyn ynghyd â miloedd o goed. Mae ein blodau gwyllt yn helpu i ddychwelyd cynefinoedd dolydd i beillwyr megis gwenyn, sydd eu hangen i oroesi.
Ond tu allan, ar diroedd y blanhigfa, yr ardaloedd sy’n cael eu goruchwylio gan Dîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych, mae poblogaeth y gloÿnnod byw yn ffynnu.
Mae poblogaeth o lindys glöyn byw peunog yn mwynhau’r danadl poethion, gan nythu yn y dail o amgylch y safle.
Bydd Glöyn Byw Peunog benywaidd yn dodwy ei hwyau mewn clystyrau ar ddail Danadl Cyffredin, sef bwyd eu lindys.
Bydd y lindys yn deor rhwng mis Mai a Mehefin, ac wrth iddynt dyfu, maent yn symud ymlaen i blanhigion eraill. Ar ôl iddynt dyfu maent yn troi’n ddu gyda smotiau gwyn. Pan maent yn barod i chwilera, bydd pob lindys yn canfod ardal addas i ffurfio crysalis.
Bydd Gloÿnnod Byw Peunog oren-goch gyda smotiau du a glas yn ymddangos rhwng mis Mehefin ac Awst.
Meddai Liam Blazey, Uwch-swyddog Bioamrywiaeth: “Mae’n wych gweld, yn ogystal â’r gwaith rydym yn ei wneud yn y blanhigfa, mae’r cynefinoedd rydym yn cadw llygad arnynt o amgylch y safle wir yn helpu’r byd natur sydd gennym yma yn Sir Ddinbych."

Ychwanegodd: “Yn ogystal â’r Gloÿnnod Byw Peunog, mae gennym nifer o rywogaethau o was y neidr yn ffynnu yn y pyllau dŵr a greon ni ger twneli’r blanhigfa, ac mae’n wych gweld y safle yn ystod Wythnos Genedlaethol Pryfetach yn symud ymlaen i warchod preswylwyr lleiaf byd natur.”