02/06/2025
Prif Weinidog Cymru yn teithio i weld prosiectau llwyddiannus yn Sir Ddinbych
Yn ddiweddar, cyrhaeddodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan Sir Ddinbych i ymweld â sawl prosiect yn y Sir.
Yn ystod ei hymweliad, aeth y Prif Weinidog i ysgolion Stryd y Rhos a Phen Barras, y Farchnad Fenyn yn Ninbych a fferm Greengates yn Llanelwy.
Ysgolion Stryd y Rhos a Phen Barras, Rhuthun -
I ddechrau, aeth y Prif Weinidog i ysgolion Stryd y Rhos a Phen Barras, a agorodd ar eu safle newydd ym mis Ebrill 2018 diolch i fuddsoddiad gwerth £11.2 miliwn drwy Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru (£8.64m) a Chyngor Sir Ddinbych (£2.59m), roedd yr ysgolion yn rhannu safle cyn symud. Ond nid oedd y safle blaenorol wedi’i adeiladu’n bwrpasol nac wedi’i ddylunio ar gyfer y ddwy ysgol, a arweiniodd at nifer o gyfyngiadau.
Cwblhawyd y prosiect yn 2018 ac yn 2019, enillodd wobr genedlaethol am Brosiect y Flwyddyn Oddi ar y Safle gan Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru ac mae bellach yn darparu amgylchedd addysgu a dysgu modern i 525 o ddisgyblion.
Yn ystod yr ymweliad, aeth y Prif Weinidog o amgylch y safle sydd â chyfleusterau o’r radd flaenaf gyda phenaethiaid y ddwy ysgol, cyn sgwrsio ag athrawon a disgyblion oedd wedi cyffroi a mwynhau perfformiad gan gorau Stryd y Rhos a Phen Barras.
Y Farchnad Fenyn, Dinbych -
Ar ei hymweliad â’r Farchnad Fenyn yn Ninbych, dysgodd y Prif Weinidog am y gwaith diweddar i ailddatblygu’r adeilad hanesyddol yn ofod cymunedol sydd wir ei angen yn y dref.
Ariannwyd y gwaith ailwampio gan amrywiaeth o ffynonellau, yn cynnwys y Gronfa Ffyniant Gyffredin, y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Fferm Wynt Coedwig Clocaenog, Fferm Wynt Brenig, Ymddiriedolaeth Freeman Evans, Bernard Sunley, Ymddiriedolaeth Garfield Weston a chyfraniadau gan sefydliadau lleol allweddol yn cynnwys Mind Dyffryn Clwyd, Grŵp Cynefin a Chyngor Tref Dinbych.

Mind Dyffryn Clwyd yw perchennog yr adeilad, a nhw sy’n ei redeg hefyd, ac maent wedi symud eu prif swyddfa i Ddinbych yn ddiweddar. Mae hyn yn caniatáu i’r sefydliad ehangu ei wasanaethau iechyd meddwl ar hyd a lled Sir Ddinbych, gan ddarparu cefnogaeth hanfodol i’r gymuned.
Hefyd, yr adeilad yw cartref newydd Amgueddfa Dinbych, Archifau Cymunedol Dinbych, Menter Iaith Sir Ddinbych a Chaffi cymunedol. Ynghyd â Mind Dyffryn Clwyd, bydd y sefydliadau hyn yn cefnogi ystod eang o weithgareddau gwirfoddol, darparu gwasanaethau hanfodol i’r boblogaeth leol a meithrin cydweithio gwell ymhlith sefydliadau trydydd sector.
Fferm Greengates, Llanelwy –
Yn olaf, aeth y Prif Weinidog i Fferm Greengates yn Llanelwy i weld y Blanhigfa Goed sy’n ymdrechu i gefnogi a meithrin planhigion a choed naturiol Sir Ddinbych.
Mae’r safle 70 erw yn tyfu coed a phlanhigion fydd yn cael eu plannu’n ôl yng nghefn gwlad ac yn y gymuned yn y pen draw i roi hwb i fioamrywiaeth.
Ar daith o’r Blanhigfa Goed, dan arweiniad Joel Walley, Swyddog Arweiniol Ecoleg a Bioamrywiaeth yng Nghyngor Sir Ddinbych, archwiliodd y Prif Weinidog y twneli polythen ble mae planhigion a choed ifanc bioamrywiaeth naturiol Sir Ddinbych yn cael eu tyfu, a chafodd rywfaint o hanes rhai o’r rhywogaethau brodorol prin megis yr Aethnen Ddu a’r Gerddinen.
Mae gwaith ailddatblygu’n digwydd ar y safle ar hyn o bryd, ble bydd gwarchodfa natur yn cael ei chreu, fydd yn cefnogi bioamrywiaeth leol ymhellach a helpu adferiad natur, yn ogystal â llwybrau caniataol i ymwelwyr fwynhau’r safle. Bydd ardal wylio uchel hefyd yn cael ei datblygu.
Mae’r gwaith hwn wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, trwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles (ENRaW) Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Ariennir y gwaith gan Lywodraeth y DU hefyd.
Meddai Paul Moore, Prif Swyddog Gweithredol Mind Dyffryn Clwyd:
“Roedd yn gyfle gwych croesawu’r Prif Weinidog i’r Farchnad Fenyn i siarad am y gwaith ailddatblygu a’r gwasanaethau a gynllunnir at y dyfodol, a sut rydym i gyd yn bwriadu cydweithio i wneud gwahaniaeth i helpu pobl go iawn yn ein cymuned.”
Meddai’r Prif Weinidog, Eluned Morgan:
“Roedd yn wych ymweld â Sir Ddinbych a gweld rhaid i’r prosiectau rhagorol mae Llywodraeth Cymru, yr awdurdod lleol a sefydliadau partner wedi eu cefnogi yn yr ardal - yn cynnwys ysgolion newydd gwych, canolbwynt cymunedol a phrosiect lleol i gefnogi natur. Da iawn bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o gyflawni’r prosiectau hyn, sydd mor bwysig i bobl leol, ac rwy’n edrych ymlaen at gael ymweld eto.”
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Roedd yn bleser croesawu’r Prif Weinidog i Sir Ddinbych ac i ddangos iddi sut mae pob un o’r prosiectau hyn yn rhagori diolch i waith cydweithio gwych.
“Mae llwyddiant y prosiectau hyn a’r gefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn dangos yr hyder sydd ganddynt yng Nghyngor Sir Ddinbych i barhau i gyflawni prosiectau fydd o fudd i Sir Ddinbych, boed hynny’n gwella safonau addysg, cefnogi’r gymuned neu wella bioamrywiaeth yn y Sir.”