Mehefin 2025

02/06/2025

Gwaith arbed ynni i wella effeithlonrwydd ysgol

Cynhaliwyd gwaith i wella effeithlonrwydd ynni a lleihau costau hirdymor mewn ysgol gynradd yn Sir Ddinbych yn ystod gwyliau’r hanner tymor.

Mae Tîm Ynni Cyngor Sir Ddinbych yn arwain gwaith i leihau defnydd ynni a chostau yn ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd.

Mae'r tîm wedi rheoli a chydlynu prosiectau gyda gwasanaethau eraill ar draws adeiladau'r Cyngor, yn cynnwys ysgolion, i helpu i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau, lleihau allyriadau a lleihau costau defnyddio dros y tymor hwy.

Mae’r gwaith parhaus hwn yn rhan o ymgyrch y Cyngor i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur a gafodd ei ddatgan yn 2019 a lleihau ei ôl-troed carbon ei hun.

Gwelodd Ysgol Llanbedr 10.68kW o ynni solar ffotofoltäig yn cael ei osod, a bydd pob Kilowatt a gynhyrchir ac a ddefnyddir gan yr ysgol yn arbed tua 22 ceiniog, ac nid yn unig y mae’r capasiti yma’n lleihau carbon yn sylweddol, ond mae hefyd yn lleihau’r straen ar yr isadeiledd grid yn lleol.

Yn dilyn gosod y panel solar, disgwylir y bydd yr ysgol yn defnyddio 78 y cant o’r trydan a gynhyrchir ar y safle, gan leihau costau hirdymor a’r ddibyniaeth ar gyflenwad y grid.

Roedd gwaith arall a wnaed yn Ysgol Llanbedr yn cynnwys insiwleiddiad waliau ceudod ac atig drwy gydol yr ysgol i leihau colled gwres a gostwng biliau gwres.

Gyda’i gilydd, mae’r gwaith yn disgwyl arbed tua £1,943.00 y flwyddyn, a dwy dunnell o allyriadau carbon yn flynyddol.

Meddai Martyn Smith, Rheolwr Ynni a Charbon Eiddo: “Rydym ni’n gwneud y gwaith yma yn Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd i helpu i wella effeithlonrwydd ynni a lleihau biliau yn yr hirdymor.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Drwy’r gwaith hwn rydym ni wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon ein hadeiladau, lleihau ein defnydd o ynni a lleihau costau ysgolion yn y tymor hwy. Diolch i’r Tîm Ynni am eu gwaith rhagweithiol, ac am gefnogaeth Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd am ganiatáu i ni gynnal y gwaith yn ystod gwyliau’r hanner tymor.”

 

Comments