Mehefin 2025

28/05/2025

Diwrnodau agored gwerthwyr wedi'u trefnu ym Marchnad y Frenhines

Gyda’r llefydd olaf ar ôl i'w llenwi yn Farchnad y Frenhines yn y Rhyl cyn iddo agor yr haf hwn, mae'r Cyngor, ar y cyd â Midlands Events (Rhyl) Ltd, yn gwahodd busnesau i'r Farchnad am ddau ddiwrnod agored sydd wedi'u trefnu ar gyfer Mehefin 3ydd, 10am-6pm, a Mehefin 4ydd, 10am-4pm.

Mae'r diwrnodau agored wedi'u hanelu at fusnesau sy'n edrych i fasnachu o'r lleoliad hanesyddol, a byddant yn cynnig taith gynhwysfawr o'r cyfleusterau modern gan y Cyfarwyddwyr o Midlands Events (Rhyl) Ltd a staff allweddol y Cyngor, yn ogystal â rhoi cipolwg ar sut y gall y lleoliad helpu i gefnogi twf busnesau lleol.

Gall busnesau sydd â diddordeb mewn masnachu o'r lleoliad gadarnhau presenoldeb drwy gysylltu â queensmarket@midlandsevents.co.uk neu drwy ffonio 07795 574602.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae'r diwrnodau agored hyn yn gyfle gwych i fusnesau sy'n edrych i fasnachu o'r cyfleuster newydd cyffrous hwn i feddiannu'r ychydig leoedd gwerthwyr olaf sydd ar gael cyn i’r Farchnad agor yr haf hwn.

Bydd cyfle hefyd i ddysgu mwy am sut olwg fydd ar fasnachu o ddydd i ddydd a chwrdd â chyfarwyddwyr Midlands Events (Rhyl) Ltd, sy'n rheoli'r Farchnad ar ran y Cyngor. Mae'r prosiect hwn yn agos iawn at fod yn barod, ac rydym yn gyffrous iawn i'r lleoliad hwn agor yr haf hwn.”

Dywedodd Andrew Burnett, Cyfarwyddwr Midlands Events (Rhyl) Ltd:

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb sydd â diddordeb, hen a newydd, i ddod i weld yr amgylchedd masnachu gwych rydym wedi’i greu.

Mae lefel y manylder a’r deunyddiau a ddefnyddiwyd ar y prosiect hwn wedi creu lleoliad gwych i fusnesau ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb p’un a ydynt wedi ymweld â’r safle o’r blaen ai peidio.

Mae hwn yn lleoliad a grëwyd ar gyfer pobl a busnesau’r Rhyl, felly mae croeso i chi ddod draw i ymweld â ni ar y diwrnodau agored.”

Comments