25/06/2025
Cyhoeddi enwau’r gwerthwyr ar gyfer gofod newydd Marchnad y Frenhines
Mae'r lleoedd gwag yn llenwi’n gyflym ar safle newydd Marchnad y Frenhines wrth i’r dyddiad agor ar 10 Gorffennaf nesáu. Mae 12 o werthwyr wedi cofrestru i weithredu yno o’r diwrnod lansio ar hyn o bryd, gyda’r stondinau bwyd poeth i gyd wedi’u llenwi, ac ychydig iawn o leoedd ar ôl yn y stondinau bwyd oer/manwerthu.
Mynediad West Parade
Bydd y gwerthwyr unigol, a fydd yn gweithio o gyfleuster newydd Marchnad y Frenhines, yn rhan hanfodol o lansio’r lleoliad pan fydd yn agor.
Mae’r rhestr o werthwyr bwyd poeth yn cynnwys cymysgedd o fwydydd a blasau o ansawdd, gan ddod â blas unigryw i ganol y Rhyl o’r diwrnod lansio. O bitsas wedi’u pobi ar garreg i brydau Caribïaidd, bydd y Farchnad yn cynnig dewis eang o fwydydd poeth ar gyfer ymwelwyr.
Y gwerthwyr bwyd poeth yw:
- Bad Burgers and Dirty Dogs, a fydd yn cynnig amrywiaeth o fyrgers ‘smash’ a chŵn poeth gourmet gydag amrywiaeth o lenwadau ynghyd â sglodion llwythog ac amrywiaeth o ddiodydd meddal.
- Bydd Go Greek yn cynhyrchu bwyd Groegaidd fel gyros, souvlaki, sglodion, halloumi, pwdinau Groegaidd gan gynnwys y gacen oren nefolaidd. Bydd ystod lawn o fwyd Groegaidd traddodiadol ar gael.
- Bydd bar nwdls Kumo Ramen yn cynnig prydau nwdls hyfryd gan gynnwys cawliau a nwdls traddodiadol.
- Bydd Kinn Kinn yn cynnig blas o Wlad Thai gydag ystod eang o fwydydd Thai ar gael gan gynnwys y cyris coch a gwyrdd enwog a phad Thai.
- Bydd Little Italy Pizza Rhyl yn cynnig pitsas wedi’u hymestyn â llaw a’u pobi ar garreg, gyda nifer o lenwadau a blasau i’w dewis a’r cyfan wedi’i baratoi’n ffres ar y safle.
- Mae Wrapped and Loaded yn cynnig bara tortillas artisan wedi’u llenwi â llenwadau sy’n uchel mewn protein.
- Bydd Street Pot yn coginio bwyd Caribïaidd gan gynnwys prydau fel cyw iâr jerk, cyri jerk, reis a phys a plantain wedi’u ffrio.
Tuag at fynedfa’r Farchnad ar Rodfa’r Gorllewin bydd ymwelwyr yn cael eu cyfarch dan ddwy uned ffenestr lle bydd:
- Spill The Beans Rhyl yn gweini coffi mâl ffres a dewis o de artisan a diodydd poeth moethus eraill yn ogystal â cacennau a theisennau crwst.
- Pudz ice cream rolls yn gweini rholiau hufen iâ, wafflau a chrempogau ffres gyda llenwadau traddodiadol fel ffrwythau ffres, siocled, hufen a ysgytlaethau ffres poblogaidd.
Yn ogystal â bwyd poeth blasus bydd Marchnad y Frenhines yn cynnig bwyd a diod oer o safon uchel. Y darparwyr sydd wedi cofrestru hyd yma yw:
- Donat DWT, a fydd yn cynnig ystod lawn o doesenni gydag eising a llenwadau moethus.
- Distyllfa Jin Spirit of Rhyl, lle gall ymwelwyr greu jin o wahanol flasau ar y safle.
- Bydd y bar yn cynnig gwasanaeth llawn i’r ardal ddigwyddiadau a’r farchnad a’r enw arno fydd The Spirit of Rhyl, a bydd yn cael ei redeg gan Ddistyllfa Spirit of Wales.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Rydym yn falch o gyhoeddi enwau’r busnesau a fydd yn dod i safle newydd Marchnad y Frenhines.
Bydd y farchnad yn cynnig ystod eang o ddewisiadau o safon uchel i ymwelwyr, a fydd yn gallu blasu’r rhain o’r diwrnod agored ar 10 Gorffennaf.
Rydym yn gyffrous iawn i wahodd y cyhoedd draw ar y diwrnod agored fel y gallan nhw weld beth sydd gan y cyfleuster gwych hwn i’w gynnig.”
Meddai Andrew Burnett, Cyfarwyddwr o Midlands Events (Rhyl) Limited:
“Rydym yn falch iawn o’r hyn sydd gan y lleoliad newydd i’w gynnig. Mae gennym ystod ardderchog o fanwerthwyr ac rydym yn gyffrous iawn am y rhaglen adloniant yr ydym yn ei rhoi at ei gilydd.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at agor rŵan a chael croesawu ein holl gwsmeriaid ar y penwythnos agored. Bydd y cyfleuster hwn yn ased go iawn i’r dref yn y dyfodol a bydd yn cynyddu niferoedd ymwelwyr y dref gyfan”.
Mae prosiect Marchnad y Frenhines wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru, yn bennaf trwy ei Raglen Trawsnewid Trefi.
Mae’r prosiect wedi cael cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae hefyd wedi cael cyllid gan Lywodraeth y DU trwy’r Rhaglen Balchder Bro a’r Amgylchedd Naturiol: Y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.
Ariennir y prosiect hefyd gan Gyngor Sir Ddinbych.