Mehefin 2025

13/06/2025

Cyngor Sir Dinbych yn Cwblhau Adolygiad Terfyn Cyflymder Diofyn 20mya

Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Dinbych wedi cwblhau eu hadolygiad o'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn y Sir.

Ym mis Medi 2023 cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth a newidiodd y terfyn cyflymder diofyn ar gyfer ffyrdd preswyl o 30mya i 20mya.

Yn dilyn hyn, lansiodd Llywodraeth Cymru adolygiad o'r terfyn cyflymder diofyn yn 2024 a daeth i'r casgliad bod y terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn briodol yn y mwyafrif helaeth o achosion.

Fodd bynnag, diweddarwyd y canllawiau i gynghorau lleol i asesu unrhyw geisiadau am 'eithriadau' i'r terfyn cyflymder diofyn.

Eithriadau yw darnau o ffyrdd lle byddai'r terfyn cyflymder yn dychwelyd i 30 mya, ond byddai angen eu caniatáu fesul achos a bodloni set lem iawn o feini prawf, cyn y gellid eu hystyried ar gyfer eithriad o'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya.

Derbyniodd y Cyngor dros 300 o gyflwyniadau ar gyfer eithriadau ar gyfer cyfanswm o 202 o ffyrdd yn Sir Ddinbych ac aseswyd yr holl eithriadau dan sylw drylwyr yn unol â chanllawiau newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer gosod eithriadau.

Ar ôl asesu pob un o'r 202 ffordd yn unigol yn erbyn y meini prawf, penderfynwyd nad oedd yr un o'r ffyrdd yn bodloni digon er mwyn i'r Cyngor fedru ystyried cynyddu'r terfyn cyflymder yn ddiogel.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth:

"Yn dilyn y gwaith helaeth gan ein swyddogion i asesu dros 300 o gyflwyniadau, penderfynwyd nad oedd yr un o'r ffyrdd a awgrymwyd yn bodloni'r meini prawf a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r terfyn cyflymder yn ddiogel i 30mya. Hoffwn ddiolch i'r swyddogion a oedd yn rhan o asesu'r cyflwyniadau a dderbyniwyd, a hoffwn hefyd ddiolch i'r trigolion a gymerodd yr amser i gysylltu â ni fel rhan o'r broses adolygu".

Comments