20/06/2025
Plannu cnwd o flodau gwyllt prin

Mae blodyn gwyllt prin yn ffynnu unwaith eto ac yn rhoi hwb i gynefinoedd byd natur yn Sir Ddinbych.
Bu tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych wrthi’n meithrin cnwd newydd o Ffacbys Rhuddlas ar gyfer y tymor hwn.
Dechreuodd y tîm ei waith i ddiogelu’r planhigyn prin hwn yn 2022, ac ôl bod yn casglu hadau flwyddyn cyn hynny o’r unig ddôl yn Sir Ddinbych lle’r oedd yn tyfu.
Wedi i’r Cyngor ddatgan argyfwng yr hinsawdd ac ecolegol yn 2019, mae’r prosiect dolydd blodau gwyllt wedi bod yn rhan o’i ymrwymiad parhaus i wella bioamrywiaeth ar draws y sir.
Mae ffacbys rhuddlas yn brin yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig ac wedi tyfu’n raddol ym Mhlanhigfa Goed y Cyngor yn Llanelwy, ac erbyn eleni mae staff a gwirfoddolwyr wedi tyfu cnwd o fwy na 100 o blanhigion.
Planhigyn blodeuog ydyw yn nheulu’r pys, Fabaceae, ac yn y pen draw fe gaiff ei blannu yn nolydd y sir er mwyn diogelu’r planhigyn i’r dyfodol a rhoi hwb i’r pryfed peillio pwysig sy’n gwneud eu cynefin ynddynt.
Meddai Sam Brown, Cynorthwyydd y Blanhigfa Goed: “Bernir bod y planhigyn dan fygythiad yng Nghymru a’r Deyrnas Gyfunol ac felly mae’n wych gallu rhoi hwb iddo yn y blanhigfa. Hyderwn y bydd ymdrechion y staff a’r gwirfoddolwyr yn creu gwell dyfodol i ffacbys rhuddlas yn y sir.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Dyma enghraifft fendigedig o waith ein Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt, nid yn unig wrth adfer cynefinoedd pwysig yma ond hefyd drwy roi hwb i blanhigion prin.
“Mae’n wych gweld y ffacbys rhuddlas yn ffynnu yn y Blanhigfa eleni ac rwy’n hyderu y bydd y planhigion hyn yn dod â mwy o hadau inni fedru diogelu’r rhywogaeth brin yma am flynyddoedd i ddod.”
Llywodraeth Cymru sydd wedi ariannu’r prosiect drwy gynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Partneriaethau Natur Lleol Cymru.