02/06/2025
Gwaith teithio llesol i ailgychwyn yng Nghorwen
Ar ôl i amgylchiadau annisgwyl atal y broses yn y gorffennol, mae’r gwaith i gyflwyno llwybr teithio llesol rhwng Corwen a Chynwyd i gychwyn eto.
Mae’r prosiect yn rhan o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU a sicrhawyd drwy gais ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer cyn-etholaeth De Clwyd, a welodd £3.8 miliwn yn cael ei glustnodi i Sir Ddinbych ei fuddsoddi yng nghymunedau Llangollen, Llandysilio-yn-Iâl, Corwen a’r cyffiniau.
Cafwyd rhagor o gyllid trwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i chreu i leihau nifer y siwrneiau bob-dydd byrion sy’n cael eu gwneud mewn cerbydau modur a chynyddu faint o deithio llesol mae pobl yn ei wneud.
Mae’r prosiect yn cynnwys uwchraddio rhannau o’r hen reilffordd sy’n cydredeg â’r B4401 yn llwybr i gerddwyr a beicwyr ei rannu. Mae hefyd yn cynnwys gosod wyneb tarmac newydd a fydd yn sicrhau bod modd defnyddio’r llwybr drwy’r flwyddyn, a gosod croesfan heb ei rheoli i gerddwyr ar draws yr A5 ger ei chyffordd a’r B4401.
Bydd mynediad at yr hen reilffordd, er mwyn gwneud gwaith adeiladu, bellach ar hyd y briffordd sydd wedi’i mabwysiadu yng Nghynwyd, a bydd y llwybr cerdded ar hyd yr hen reilffordd ar gau tra mae’r gwaith adeiladu’n cael ei wneud, ac arwyddion a rheolaethau traffig priodol yn eu lle.
Bydd signalau dwy-ffordd yn cael eu gosod ar y ffordd gerbydau ger Pont Dyfrdwy ar gyfer dechrau’r gwaith a bydd hyn yn cael ei adolygu wrth i’r prosiect ddatblygu.
Ar ôl oedi oedd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, bydd gwaith sy’n cael ei wneud gan G. H. James Cyf. bellach yn dechrau ym mis Mehefin ac yn para oddeutu 30 wythnos.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae croeso mawr i lwybr teithio llesol newydd yng Nghorwen a Chynwyd. Bydd y gwaith hwn yn gwneud y safle’n fwy hygyrch i ddefnyddwyr a hefyd yn gwarchod pwysigrwydd amgylcheddol ac ecolegol y llwybr. Roedd hyn yn hollbwysig yn ystod y broses ddylunio ac mae wedi arwain at ffafrio dulliau sy’n well i’r amgylchedd, fel defnyddio technegau adeiladu heb orfod tyrchu i gwblhau’r prosiect.
“Hoffwn ddiolch i’r Cynghorwyr Alan Hughes a Gwyneth Ellis am eu cefnogaeth i’n galluogi ni i weithio gyda’r gymuned, er mwyn cwblhau prosiect a fydd o fudd i bawb yn y dyfodol agos.
“Rydyn ni’n deall ei fod yn llwybr poblogaidd ac yn gwerthfawrogi amynedd ein preswylwyr yn ystod y cyfnod hwn.”
I ddysgu mwy am deithio llesol, gallwch fynd i’r dudalen ar Deithio Llesol ar ein gwefan, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y prosiect, anfonwch e-bost at Levellingup@denbighshire.gov.uk.