Mehefin 2025

18/06/2025

Dôl newydd yn ehangu gwarchodfa natur

Mae ardal gynefin newydd yn cael ei chreu yr haf hwn mewn gwarchodfa natur.

Mae cefnogaeth yn cynyddu ar gyfer pryfed peillio o gwmpas Gwarchodfa Natur Rhuddlan eleni, ar ôl i ardal dôl blodau gwyllt newydd gael ei chwblhau.

Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi gweithio gyda Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Natur Rhuddlan ers 2011 i reoli’r safle, er mwyn helpu natur i ffynnu a darparu lle gwych o ran lles cymunedol.

Mae Gwarchodfa Natur Rhuddlan wedi ehangu a datblygu dros y blynyddoedd ac wedi cyflwyno datblygiadau ar y safle sy’n cynnwys dwy ddôl o flodau gwyllt, tri phwll bywyd gwyllt, 300 metr o wrychoedd, lleiniau blodau gwyllt, plannu 6,000 o goed, perllan rhywogaethau treftadaeth, dwy ardal bicnic a llwyfan rhwydo pyllau.

Gan weithio gyda’r Grŵp Dementia lleol, mae’r bartneriaeth hefyd wedi creu gofod sy’n gyfeillgar i Ddementia ar y safle, gyda nodweddion synhwyraidd, coed, blodau gwyllt a thirwedd hanesyddol megis waliau cerrig sych a gwrychoedd wedi plygu a seddi coed derw Cymreig traddodiadol.

Ochr yn ochr â’r lle hwn, mae ceidwaid cefn gwlad, gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr, wedi creu dôl blodau gwyllt newydd er mwyn parhau â’r gefnogaeth ar gyfer natur ar y safle a darparu ardal newydd i ymwelwyr ei mwynhau.

Mae’r ardal newydd wedi’i datblygu gyda phridd a glaswellt blodau gwyllt a fydd yn darparu amrywiaeth o blanhigion i gefnogi pryfed peillio a’r bywyd gwyllt ehangach yn y warchodfa natur.

Ac er mwyn diogelu’r safle, bu’r gwirfoddolwyr hefyd yn helpu i adeiladu ffens bleth o amgylch ffin y ddôl.

Eglurodd y Ceidwad Cefn Gwlad, Vitor Evora: “Mae wedi bod yn wych darparu cynefin dôl blodau gwyllt ychwanegol ar y warchodfa natur oherwydd mae’r rhain yn gynefinoedd hanfodol sydd eu hangen er mwyn cefnogi ein pryfaid peillio a’r bywyd gwyllt sy’n bwydo ar y pryfaid yn y math hwn o ardal. Bydd y nodwedd yn llawn amrywiaeth a lliw i’r rhai sy’n ymweld â’r warchodfa eu mwynhau hefyd.”

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio ar Gabinet Sir Ddinbych: “Mae’r gwirfoddolwyr a’r ceidwaid wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol go iawn i’r rhan hon o Warchodfa Natur Rhuddlan ac rydym yn ddiolchgar am eu gwaith ymroddedig i wella bioamrywiaeth yn yr ardal a’r profiad i ymwelwyr sy’n galw heibio’r warchodfa.”

 

Comments