llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 1

Cyn-ddisgybl yn dychwelyd i Ysgol yn y Rhyl i lansio prosiect ffilm fer

Cafodd y disgyblion gipolwg ar fyd Hollywood pan ddaeth cyn-ddisgybl proffil uchel yn ôl i ysgol yn y Rhyl.

Croesawodd y Cyngor ac Ysgol Gatholig y Bendigaid Edward Jones eu cyn-ddisgybl Paul Higginson, sy’n is-lywydd gweithredol EMEA ar gyfer Twentieth Century Fox, i drafod sut i olrhain gyrfa yn y byd ffilmiau.

Lansiodd Paul Higginson brosiect ffilm fer mewn cydweithrediad â menter Cyfoethogi Cwricwlwm Sir Ddinbych a Cherddoriaeth a Ffilm Gymunedol Tape, ar ôl dosbarth meistr ysgrifennu sgriptiau yn 2017, pan ddaeth yr awdur teledu a ffilmiau Jimmy McGovern i'r ysgol a chynorthwyo myfyrwyr i lunio sgript ar gyfer ffilm fer o’r enw Fight or Flight.

Mae Paul wedi gweithio ar sawl ffilm enwog, gan gynnwys Titanic yn 1997, ac roedd yn gyfrifol am ddod â dangosiad cyntaf comedi Jim Carrey - Me, Myself and Irene i’r dref yn 2000.

Dywedodd: "Fe wnes i dyfu i fyny yn y Rhyl, es i'r ysgol hon ac roeddwn eisiau cyfrannu at y prosiect hwn.

“Roeddwn yn edrych ymlaen at ddod yn ôl ac roedd yn emosiynol iawn. Roeddwn eisiau i’r myfyrwyr ddeall beth sy’n bosibl, mae cymaint o sylw negyddol o ran ymestyn y tu hwnt i’ch amgylchedd a’r hyn y mae'r unigolion o'ch cwmpas yn eu gosod fel paramedrau ar eich cyfer. 

“Roeddwn eisiau dweud wrthynt y gallant wthio y tu hwnt i'r ffiniau. Rwy’n falch o gefnogi menter sy’n cynorthwyo plant i deimlo felly”.

Bydd y disgyblion yn ffilmio a chynhyrchu Fight or Flight, sy’n ymdrin â materion megis hunan-barch, delwedd y corff a chyfryngau cymdeithasol, gyda’r dangosiad cyntaf i’w gynnal yn yr ysgol yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Mathew Smith, disgybl blwyddyn 11, fod sgwrs Mr Higginson wedi ysbrydoli’r myfyrwyr.

Dywedodd: “Un peth sy'n arwyddocaol i mi yw ei fod o'r un dref â ni, gan olygu ei fod yn fwy credadwy ac yn edrych fel rhywbeth y gallwn ni ei wneud".

Mae’r prosiect yn gydweithrediad rhwng menter Cyfoethogi Cwricwlwm Sir Ddinbych , yr ysgol a Tape, gyda chyllid gan Gronfa Addysg Thomas Howell ar gyfer Gogledd Cymru.

Dywedodd Dominic Tobin, Pennaeth yr ysgol: “Mae ein myfyrwyr yn falch o’r cyfle i wthio eu hunain y tu hwnt i’r arferol, daeth gweithwyr proffesiynol i’r ysgol i weithio gyda nhw a gwthio’r ffiniau sy’n wych, ynghyd â rhoi cred iddynt y gallai eu diddordebau arwain at yrfa.  Yn ogystal bydd hwn yn hwb i’w hyder ac hunan-gred, gan agor eu meddyliau i bosibiliadau gyrfaoedd yn y dyfodol.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...