Glanhau strydoedd cymuned Gorllewin y Rhyl
Mae ymdrechion i lanhau strydoedd Gorllewin y Rhyl yn talu ar ei ganfed.
Roedd Cyngor Sir Ddinbych, gan weithio gyda'i bartneriaid, wedi nodi 10 lleoliad yn y rhan hon o'r dref yn flaenorol lle'r oedd tipio anghyfreithlon yn bryder.
Roedd y sbwriel yn amrywio o wastraff domestig, matresi, soffas, cadeiriau ac eitemau cartrefi eraill a dodrefn. Roedd pobl hefyd yn rhoi bagiau sbwriel allan, yn aml yn cynnwys gwastraff bwyd, ymhell cyn eu diwrnod casglu. Roedd hyn yn aml yn denu gwylanod i dorri'r bag ar agor wrth chwilio am fwyd.
Mae'r Cyngor ers hynny wedi gweithio'n agos gyda pherchnogion eiddo, trigolion a busnesau i ddeall y problemau y tu ôl i'r tipio anghyfreithlon, i addysgu'r cyhoedd am effeithiau gwrthgymdeithasol tipio anghyfreithlon ac i ddarparu biniau mwy ar gyfer yr unigolion hynny sydd ei angen.
O ganlyniad, mae'r ardal wedi gweld gwelliant dramatig, gyda nifer y mannau problemus yn cael eu lleihau i un.
Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Dai, Rheoleiddio a'r Amgylchedd: "Rydym wrth ein bodd bod yr ymdrechion parhaus yn y Rhyl yn gweithio'n dda. Yr ydym yn gweld gwelliant amlwg yn y modd y mae'r gymuned leol yn edrych ac yn teimlo ac mae pobl yn ymddangos yn ymfalchïo yn y ffordd y mae eu heiddo'n edrych. Mae'n ymddangos bod ein hymdrechion addysg yn gweithio.
"Fodd bynnag, rydym yn parhau i gael ambell i eiddo neu unigolion yma sy'n meddwl ei fod yn dderbyniol i dipio’n anghyfreithlon ac nid yw'r neges yn cyrraedd y bobl hyn. Os byddwn yn dod o hyd i enghreifftiau o bobl sy'n tipio'n anghyfreithlon, edrychwn drwy'r sbwriel i weld a oes unrhyw wybodaeth sy'n nodi'r sawl sy'n euog.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i helpu i wella ansawdd bywyd trigolion a glanhau strydoedd y dref. Gyda datblygiadau arwyddocaol yn mynd rhagddo ar hyd glan y môr a gwaith sy'n mynd rhagddo gydag ymgynghoriad y Prif Gynllun Rhyl, mae'n hanfodol bod y berthynas waith agos yng Ngorllewin y Rhyl yn newid canfyddiadau ac yn gwella profiad byw yno i breswylwyr.
Os ydych yn gweld pobl yn tipio anghyfreithlon, dylent roi gwybod amdanynt i 01824 706000, gan roi cymaint o fanylion â phosib o'r troseddwyr. Gallwch hefyd roi gwybod am broblem ar ein gwefan.
Llun o dipio anghyfreithlon yng Nghraianrhyd ger Llanarmon yn Iâl.