llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 1

Grŵp Darllen Peilot i gael ei lansio yn y Rhyl

Mae grŵp darllen yn cael ei lansio er mwyn helpu’r rhai hynny sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.

Bydd y Cyngor Sir a Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCIS) yn peilota’r grŵp Darllen a Chofio yn Llyfrgell y Rhyl a’r Siop Un Alwad.

Bydd y Gwasanaethau Llyfrgell a NEWCIS yn cynnal y sesiynau grŵp i annog cyd-ddarllen, rhannu atgofion a chyfarfod pobl newydd mewn awyrgylch hamddenol.

Mae gwaith arall sy’n cael ei wneud gan y Gwasanaeth Llyfrgell yn cynnwys cynyddu nifer y llyfrau fyddai o ddiddordeb i ofalwyr; gwasanaeth llyfrgell misol i fynd a llyfrau at bobl sy'n gaeth i'w cartrefi a llyfrau sydd wedi cael cymeradwyaeth glinigol i helpu pobl sy'n byw gyda dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr i ddeall y cyflwr.

Bydd y grŵp darllen yn cael ei gynnal ddydd Mercher, Mawrth 6 o 1.30pm yn Llyfrgell y Rhyl ac os bydd yn llwyddiannus mae’n bosibl y bydd rhagor o grwpiau'n cael eu sefydlu ar draws y sir.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Llyfrgell y Rhyl ar 01745 353814.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...