llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 1

Sir Ddinbych yn Gweithio

Os ydych chi neu rywun rydych yn gwybod am, mewn, neu mewn perygl o fod mewn tlodi a hoffech helpu nhw i gael gwaith, neu i wneud cynnydd yn eu gwaith, gallwn ni helpu drwy gynnig cymorth ac arweiniad gyda: 

  • Cymhelliant a hunan hyder
  • Cyngor ac arweiniad un i un
  • Cyfleoedd hyfforddi
  • Gwirfoddoli
  • Ysgrifennu CV
  • Profiad Gwaith
  • Technegau Cyfweliad
  • Gwneud Cais am Swydd
  • Cyllid personol
  • Cyfrifoldebau Gofalu
  • Unrhyw beth arall sy'n eich atal rhag mynd i mewn i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant  

Sir Ddinbych yn gweithio yw ein dull o fynd i'r afael â thlodi trwy gyflogaeth. Ein nod yw cydlynu cefnogaeth sy'n helpu pobl i mewn i waith, yn tynnu’r  rhwystrau i gael mewn i waith ac yn rhoi'r cychwyn gorau mewn bywyd i blant. Ein bwriad yw lleihau tlodi trwy alluogi pobl gael mynediad at rwydwaith o wasanaethau sy'n eu cefnogi yn eu taith tuag at gyflogaeth, ac i gynnal eu swydd a mynd yn eu blaen unwaith mewn cyflogaeth.

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n gwybod am yn 16 oed neu'n hŷn, mewn, neu mewn perygl o dlodi. Neu, os hoffech gymorth i fynd i mewn neu fynd ymlaen yn eich gwaith. Ewch i'n tudalen ‘Cymorth i gael gwaith ac i wneud cynnydd yn y gwaith’ er mwyn canfod sut y gallwn ni helpu.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...