Awst 2026

06/08/2026

Bws Mini Trydan Newydd yn Pweru Bws Fflecsi Prestatyn

Fe fydd cynllun cludiant cyhoeddus sy’n ymateb i alw ym Mhrestatyn yn cael ei yrru gan gerbyd hygyrch a gwyrddach.   

Mae Tîm Cludiant Teithwyr Sir Ddinbych a Thrafnidiaeth Cymru wedi cydweithio i ddarparu cerbyd trydan ar gyfer cynllun Fflecsi Prestatyn ar ôl i gontract y darparwr presennol ddod i ben. 

Mae Fflecsi Prestatyn yn cynnig gwasanaeth i breswylwyr sy’n ymateb i alw i’w cefnogi i wneud teithiau byr mewn i ganol y dref o ardaloedd preswyl ac yn ôl eto. 

Mae Gwasanaeth Fflyd Cyngor Sir Ddinbych eisoes yn gweithredu dau fws mini trydan sy’n cefnogi cynlluniau Fflecsi tebyg yn Rhuthun a Dinbych.

Bu i’r Cyngor ddatgan argyfwng hinsawdd ac argyfwng ecolegol yn 2019 ac ers hynny mae wedi symud i ddefnyddio cerbydau di-allyriadau yn ei fflyd. Ar hyn o bryd, mae dros 20% o’r cerbydau yn ei fflyd yn gerbydau di-allyriadau.

Wrth i’r cerbydau sy’n defnyddio tanwydd ffosil gyrraedd diwedd eu hoes, mae Gwasanaeth Fflyd Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn cyflwyno rhai trydan, gyda chefnogaeth sylweddol gan adrannau Llywodraethau Cymru a’r DU, er mwyn helpu i gwtogi ar yr allyriadau a gynhyrchir a lleihau costau hirdymor o ran milltiroedd a chynnal a chadw ar draws yr holl wasanaethau y mae ein fflyd yn eu cyflenwi ac i leihau’r ddibyniaeth ar gerbydau gydag injan disel neu betrol.

I gefnogi Fflecsi Prestatyn yn y dyfodol, fe fydd bws mini Ford E Transit, a all deithio hyd at 250 milltir, yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cynllun. Fe fydd wyth o seddi yn y bws mini, ac fe fydd yn gwbl hygyrch ac fe fydd yna fynediad i gadeiriau olwyn hefyd.

Fe fydd y cerbyd newydd yn gweithredu Gwasanaeth Fflecsi Prestatyn, sydd bellach yn cael ei alw’n 44 ers 6 Gorffennaf. Fe fydd y gwasanaeth yn dal i fod yn weithredol yr un amser, rhwng 9.30am a 2.30pm.

Os bydd unrhyw un yn holi ynghylch archebu gwasanaeth Fflecsi Prestatyn, gallant ddefnyddio’r rhif ffôn 0300 234 0300 neu archebu drwy ap Trafnidiaeth Cymru sydd i’w weld yma: https://trc.cymru/fflecsi/lleoliadau/prestatyn

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae ein gwasanaeth fflyd yn gweithio’n galed  lle y bo’n briodol i ddisodli cerbydau sy’n cael eu gyrru gan danwydd ffosil gyda rhai mwy gwyrdd er mwyn helpu i ostwng allyriadau carbon yn y Sir, ac i gefnogi costau rhedeg a chynnal a chadw hirdymor is. 

“Rydym yn falch o gael y cyfle i ddarparu’r cerbyd ein hunain ar gyfer Fflecsi Prestatyn, fel yr ydym ar gyfer Rhuthun a Dinbych, ac i helpu i gefnogi dull o deithio sydd yn fwy modern a gwyrdd i breswylwyr lleol ei ddefnyddio a’i fwynhau.”

 

Comments