02/08/2026
Y Cyngor yn Amlinellu'r Camau Nesaf yn dilyn Pryderon am y Bagiau Ailgylchu Glas
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cydnabod ac yn deall pryderon a godwyd gan drigolion ac aelodau lleol ynghylch y bagiau ailgylchu cardbord glas, ac rydym am roi sicrwydd i bobl bod y tîm Gwastraff ac Ailgylchu wedi gwrando ar farn trigolion ac wedi ymrwymo i edrych ar y mater hwn yn ofalus.
Mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn ym mis Mai eleni, trafododd cynghorwyr hysbysiad o gynnig a oedd ar yr agenda ynghylch adolygu a diwygio'r Polisi Casglu Ailgylchu a Gwastraff na ellir ei Ailgylchu.
Yn dilyn yr Hysbysiad o Gynnig, dechreuwyd ar waith i baratoi adroddiad llawn a fydd yn amlinellu'r opsiynau ynghylch cynwysyddion ailgylchu trigolion, gan gynnwys y bag cardbord glas.
Rhaid i'r Cyngor ddilyn y broses briodol, a bydd yr adroddiad hwn yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau ym mis Medi. Yn dilyn argymhellion y pwyllgor, bydd yn mynd gerbron y Cabinet yn yr hydref, lle gwneir penderfyniad ynghylch unrhyw newidiadau arfaethedig i'r Polisi Casglu Ailgylchu a Gwastraff na ellir ei Ailgylchu.
Tra bod y broses hon ar y gweill, rydym yn annog trigolion i barhau i ddefnyddio unrhyw fagiau glas sy'n parhau i fod mewn cyflwr da, ar yr amod y gellir eu casglu'n ddiogel gan ein timau a'u gwagio i'r cerbyd casglu. Gall trigolion sydd â bagiau sydd wedi'u difrodi ac na ellir eu defnyddio mwyach archebu un newydd drwy wefan y Cyngor. Dylid bagiau newydd gyrraedd o fewn 4 wythnos.
Yn y cyfamser, gall trigolion gyflwyno eu cardbord i'w gasglu mewn bag addas arall o faint tebyg i'r bag ailgylchu cardbord glas a ddarperir gan y Cyngor. Bydd ein timau yn casglu'r rhain.
Hoffem ddiolch yn ddiffuant i drigolion am eu hymdrechion parhaus i ailgylchu ac am y gefnogaeth y maent yn ei dangos i'n timau casglu. Mae eu hymrwymiad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan ein helpu i ddiogelu amgylchedd lleol Sir Ddinbych ac adeiladu sir lanach a mwy cynaliadwy ar gyfer cymunedau nawr ac yn y dyfodol.