Awst 2026

07/08/2026

Diwrnod Chwarae Blynyddol y Rhyl yn gweld 3800 yn bresennol

Cynhaliwyd 11eg digwyddiad blynyddol Diwrnod Chwarae Cenedlaethol ar 5 Awst yng Nghaeau Chwarae Christchurch yn y Rhyl, gyda 3,800 o bobl yn bresennol.

Wedi'i drefnu gan wasanaeth Ceidwaid Chwarae Cyngor Sir Dinbych i helpu plant i fwynhau eu gwyliau haf, roedd y digwyddiad am ddim ac yn cynnwys llu o weithgareddau gan gynnwys sgiliau syrcas, cestyll neidio, gwneud blychau adar, celf a chrefft, gemau enfawr a mwy.

Yn dilyn digwyddiad hynod lwyddiannus y llynedd, canolbwyntiodd thema eleni ar bwysigrwydd creu cyfleoedd i blant chwarae lle bynnag y maent.

Dywedodd Dawn Anderson, Rheolwr Gofal Plant a Datblygu Chwarae Sir Dinbych:

“Roeddem wrth ein bodd yn gwahodd teuluoedd lleol i'n 11eg digwyddiad Diwrnod Chwarae blynyddol.

Cawsom nifer wych o bobl yno unwaith eto eleni, a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am helpu i wneud y digwyddiad poblogaidd hwn yn gymaint o lwyddiant.

Bob blwyddyn, mae'r digwyddiad hwn yn mynd o nerth i nerth, ac mae bellach yn ffefryn cadarn yn ystod gwyliau'r haf i deuluoedd lleol.”

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Unwaith eto, rydym wedi cael presenoldeb gwych yn y digwyddiad poblogaidd iawn hwn, a wnaed yn bosibl diolch i’n Gwasanaeth Ceidwaid Chwarae a’r teuluoedd sy’n mynychu bob blwyddyn.

Roedd yn wych bod yn bresennol a gweld teuluoedd lleol yn mwynhau eu gwyliau haf gyda’i gilydd.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu i wneud y digwyddiad hwn yn llwyddiant eto eleni.”

Comments