Awst 2026

07/08/2026

Cyngor yn cefnogi prosiect i drawsnewid stryd gefn gymunedol yn y Rhyl

Mae Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn cydweithio â grwpiau cymunedol lleol a sefydliadau partner i helpu i draws newid stryd gefn yn y Rhyl.

Mae hyn yn rhan o fenter barhaus i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon a gwella’r amgylchedd lleol.

Trwy’r prosiect cydweithio yma, daeth timau Troseddau Amgylcheddol a Gwasanaethau Stryd y Cyngor, Dyfodol Disglair a Chadwch Gymru'n Daclus ynghyd i glirio gwastraff oedd wedi’i dipio’n anghyfreithlon a dechrau adnewyddu’r stryd gefn oedd wedi’i hesgeuluso.

Er bod cael gwared ar wastraff sydd wedi’i adael yn anghyfreithlon yn gam cyntaf pwysig, nod y prosiect yw creu mannau cymunedol mwy glân, mwy gwyrdd a mwy croesawgar y gall y preswylwyr ymfalchïo ynddynt.

Trwy weithio mewn partneriaeth gyda phobl leol, mae’r fenter yn annog newid ymddygiad cadarnhaol tra’n gwella ymddangosiad a bioamrywiaeth yr ardal.

Yn rhan o’r fenter, mae preswylwyr sydd yn byw yn yr ardaloedd cyfagos wedi cael cyngor a gwybodaeth am eu cyfrifoldebau i waredu gwastraff yn gywir ac effeithiau tipio anghyfreithlon.

Trwy gyfuno addysg, ymgysylltu a gwelliannau amgylcheddol, mae’r Cyngor yn gobeithio y gall preswylwyr gymryd mwy o falchder yn eu cymdogaeth a helpu i’w gadw’n lân.

Fe hoffai Cyngor Sir Ddinbych hefyd atgoffa preswylwyr bod tipio anghyfreithlon yn drosedd. Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i unrhyw un sy’n cael ei adnabod sy’n gyfrifol am waredu gwastraff yn anghyfreithlon, ac os oes digon o dystiolaeth, fe gymerir camau gorfodi priodol. Fe allai hyn gynnwys cyflwyno Rhybuddion Cosb Benodedig neu erledigaeth pan fo hynny’n briodol.

Dros yr wythnosau nesaf, fe fydd y stryd gefn yn parhau i gael ei thrawsnewid gyda photiau plannu lliwgar, planhigion newydd a nodweddion bywyd gwyllt. Fe fydd camerâu hefyd yn cael eu gosod i fonitro bywyd gwyllt lleol yn dilyn adroddiadau fod draenogod yn ymweld â’r ardal yn aml. Fe fydd plant a phobl ifanc leol yn cael cyfle i helpu i greu cynefinoedd i fywyd gwyllt, gan gryfhau perchenogaeth gymunedol o’r ardal.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Mae prosiectau fel hyn yn dangos y gwahaniaeth gwirioneddol y mae gweithio mewn partneriaeth yn gallu ei gael. Trwy ddod â phreswylwyr lleol, grwpiau cymunedol, Cadwch Gymru'n Daclus a gwasanaethau’r Cyngor ynghyd, nid yn unig ydym ni’n cael gwared ar dipio anghyfreithlon, ond rydym yn creu ardaloedd y gall pobl eu mwynhau a theimlo’n falch ohonynt. Mae annog preswylwyr i gymryd perchenogaeth o’u hamgylchedd lleol yn rhan bwysig o atal troseddau amgylcheddol a chreu cymunedau cryfach, glanach.

“Byddwn yn parhau i gefnogi cymunedau drwy addysg ac ymgysylltu, ond pan fydd unigolion yn dewis tipio’n anghyfreithlon, ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau gweithredu priodol.”

 

 

Comments