Awst 2026

13/08/2026

Tipiwr anghyfreithlon yn cael Rhybudd Cosb Benodedig o £250 yn dilyn ymchwiliad yn y Rhyl

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyflwyno Rhybudd Cosb Benodedig o £250 i breswylydd ar ôl canfod eu bod yn gyfrifol am dipio gwastraff y cartref yn anghyfreithlon ar Elwy Street yn ochr gorllewinol y Rhyl.

Cafodd yr achos o dipio anghyfreithlon, oedd yn cynnwys sawl bag du o wastraff domestig, ei adrodd i Dîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad y Cyngor. 

Gan weithio’n agos gyda phreswylwyr lleol ac adolygu fideo teledu cylch caeëdig o’r ardal, bu modd i Swyddogion gasglu tystiolaeth a arweiniodd at adnabod yr unigolyn oedd yn gyfrifol.  Yn dilyn ymchwiliad, cyflwynwyd Rhybudd Cosb Benodedig o £250.

Yn hytrach na’u herlyn drwy’r llysoedd, cyflwynodd y Cyngor Rybudd Cosb Benodedig fel dull arall o ddelio â’r drosedd.

Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd sydd yn difetha cymunedau lleol, yn niweidio’r amgylchedd ac yn rhoi byrdwn ariannol diangen ar drethdalwyr drwy’r gost o glirio gwastraff sydd wedi’i adael yn anghyfreithlon.  Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i gymryd camau gweithredu cadarn yn erbyn y rhai sy’n dewis gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon.

Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych:

Mae tipio anghyfreithlon yn gwbl annerbyniol ac rydym wedi ymrwymo i weithredu yn erbyn y rhai sy’n difetha ein cymunedau drwy waredu eu gwastraff yn anghyfreithlon.

"Mae’r achos yma’n dangos pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth gyda’n cymunedau. Gyda’r wybodaeth a ddarparwyd gan breswylwyr lleol, ynghyd â thystiolaeth teledu cylch caeëdig ac ymchwiliad trylwyr gan ein Swyddogion, bu modd i ni adnabod y troseddwr a chymryd gweithred gorfodi priodol.

“Rydym eisiau diolch i’r preswylwyr a gyflwynodd wybodaeth. Mae eu cefnogaeth yn chwarae rôl hollbwysig yn ein helpu i fynd i’r afael â throseddau amgylcheddol. Byddem yn annog unrhyw un sy’n dyst i dipio anghyfreithlon neu droseddau amgylcheddol eraill i roi gwybod i ni amdanynt, gan fod pob darn o dystiolaeth yn gallu ein helpu i adnabod y rhai sy’n gyfrifol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ein neges yn glir – wnawn ni ddim goddef tipio anghyfreithlon yn Sir Ddinbych. Os ydych chi’n dewis gadael gwastraff yn anghyfreithlon, fe allech chi gael Rhybudd Cosb Benodedig neu gael eich erlyn."

Fe atgoffir preswylwyr y dylai gwastraff y cartref gael ei waredu drwy wasanaethau casglu awdurdodedig, Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref neu drwy ddefnyddio cludwr gwastraff cofrestredig.  Os ydych chi’n talu rhywun i waredu eich gwastraff, gwiriwch eu bod wedi cofrestru i wneud hynny.

Os oes gennych chi wybodaeth am dipio anghyfreithlon neu unrhyw droseddau amgylcheddol eraill, adroddwch amdano drwy wefan Cyngor Sir Ddinbych neu cysylltwch â’n tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyngor ar 01824 706000. Drwy adrodd am droseddau amgylcheddol, gallwch helpu i amddiffyn ein cymunedau a chadw Sir Ddinbych yn lân, yn ddiogel ac yn groesawgar ar gyfer pawb.

 

Comments