Awst 2026

14/08/2026

Timau’r Cyngor yn dod at ei gilydd ar gyfer Sioe Dinbych a Fflint

Mae timau Cyngor Sir Ddinbych wrthi’n gwneud y paratoadau terfynol i ddod ag ystod o feysydd gwasanaeth i Sioe Dinbych a Fflint eleni, a fydd yn cael ei chynnal yn Y Green, Dinbych, ddydd Iau 20 Awst 2026.

Bydd cyfle i’r rhai sy’n ymweld â stondin y Cyngor gyfarfod staff o sawl tîm a dysgu mwy am y gwaith sy’n cael ei wneud ar draws y sir i gefnogi cymunedau, diogelu’r amgylchedd lleol a helpu Sir Ddinbych i ymateb i heriau newid hinsawdd.

Bydd Gwasanaethau Fflyd yn arddangos detholiad o gerbydau trydan, yn cynnwys cerbydau fflyd y Cyngor a cherbydau trydan wedi’u darparu gan werthwyr, i amlygu sut mae’r dechnoleg hon yn helpu i ddarparu cludiant glanach a lleihau allyriadau. Bydd staff ar gael i sgwrsio gydag ymwelwyr a dangos y rôl y gall cerbydau trydan ei chwarae wrth leihau allyriadau, gwella ansawdd yr aer a chefnogi cludiant cyhoeddus a phreifat sy’n fwy cynaliadwy.

Bydd tîm Hinsawdd y Cyngor hefyd wrth law i drafod eu rhaglen waith yn gysylltiedig â mynd i’r afael â newid hinsawdd a chefnogi uchelgeisiau ehangach y Cyngor i leihau allyriadau carbon a diogelu bioamrywiaeth. Bydd cyfle i ymwelwyr ddysgu mwy am y camau ymarferol sy’n cael eu cymryd ar draws gwasanaethau’r Cyngor, a sut y gall unigolion, busnesau a chymunedau gymryd rhan hefyd.

Bydd aelodau o’r tîm Risg Llifogydd ar gael i egluro’r gwaith pwysig y maent yn ei wneud i reoli a lleihau risg llifogydd ar draws Sir Ddinbych, yn cynnwys sut maent yn gweithio gyda chymunedau a sefydliadau partner i wella dealltwriaeth, parodrwydd a gwytnwch.

Bydd yr Ymgynghorwyr Ailgylchu o Wasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Sir Ddinbych hefyd yn y sioe, i siarad gydag ymwelwyr am ailgylchu, lleihau gwastraff a sut y gallwn gefnogi aelwydydd i ailgylchu’n fwy effeithiol. Bydd y tîm yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol, cyngor a gweithgareddau hwyliog i helpu trigolion i ddeall beth y gellir ei ailgylchu, sut i ailgylchu’n gywir a sut y gall newidiadau bach yn y cartref wneud gwahaniaeth mawr.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yng Nghyngor Sir Ddinbych: “Mae Sioe Dinbych a Fflint yn gyfle gwych i’n preswylwyr ac ymwelwyr siarad yn uniongyrchol gyda’n timau a darganfod mwy am y gwaith sy’n cael ei wneud ar draws Sir Ddinbych. O gerbydau trydan a gweithredu ar newid hinsawdd i risg llifogydd ac ailgylchu, bydd ein staff yno i ateb cwestiynau, rhannu cyngor ac egluro sut mae’r gwasanaethau hyn yn cefnogi cymunedau ar draws y sir.”

Mae’r Cyngor yn annog unrhyw un a fydd yn mynychu’r sioe i alw heibio’r stondin, cwrdd â’r timau a dysgu mwy am y gwasanaethau sy’n helpu i greu Sir Ddinbych sy’n fwy gwyrdd, diogel a chynaliadwy.

 

Comments