Awst 2026

24/08/2026

Ymchwiliad yn dal tipiwr anghyfreithlon cilfan Rhuddlan

Cafodd tipiwr anghyfreithlon a fu’n gollwng gwastraff mewn cilfan yn Rhuddlan ei ddal yn dilyn ymchwiliad.

Cynhaliodd Tîm Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych ymchwiliad trylwyr i’r digwyddiad. Casglodd y tîm dystiolaeth a’i harchwilio, a galluogodd hyn i swyddogion adnabod yr unigolyn a oedd yn gyfrifol ac a oedd yn byw sawl milltir o leoliad y gilfan.

Ar ôl yr ymchwiliad, rhoddwyd Rhybudd Cosb Benodedig £250 i’r troseddwr am dipio anghyfreithlon.

Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych:

“Rydym yn benderfynol o leihau achosion o dipio anghyfreithlon ar draws Sir Ddinbych a byddwn yn parhau i ymchwilio i ddigwyddiadau pan fyddant yn codi.

“Mae’r achos hwn yn dangos nad yw tipio gwastraff yn anghyfreithlon o’ch cartref yn golygu na fyddwch chi’n cael eich dal. Mae ein swyddogion yn cynnal ymchwiliadau trylwyr a byddant yn dilyn y dystiolaeth i ganfod y rhai sy’n gyfrifol.

“Mae tipio anghyfreithlon yn difetha ein cymunedau, mae’n costio i’w glirio a gall gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd lleol. Byddwn yn parhau i gymryd camau gorfodi yn erbyn rhai sy’n dewis gollwng eu gwastraff yn anghyfreithlon.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant Cyngor Sir Ddinbych: “Mae tipio anghyfreithlon yn gwbl annerbyniol ac nid oes lle iddo yn Sir Ddinbych. Mae’n arbennig o rwystredig pan fo gwastraff yn cael ei gludo’n fwriadol o ardaloedd preswyl a’i ollwng mewn cilfannau neu leoliadau ynysig eraill.

“Rwy’n croesawu’r gwaith a wnaed gan ein Tîm Troseddau Amgylcheddol i adnabod yr unigolyn a oedd yn gyfrifol a rhoi’r Rhybudd Cosb Benodedig hwn. Byddwn yn parhau i gefnogi ein swyddogion i fynd i’r afael â throseddau amgylcheddol ac amddiffyn cymunedau a chefn gwlad ar draws Sir Ddinbych.”

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog preswylwyr i roi gwybod am dipio anghyfreithlon a throseddau amgylcheddol eraill er mwyn helpu swyddogion i nodi ardaloedd problemus a chymryd camau gorfodi yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol.

Comments