27/08/2026
Y diweddaraf am waith ailwampio toiledau cyhoeddus y sir

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion y sir ynglŷn â chynllun ailwampio toiledau cyhoeddus y sir.
Fis Tachwedd y llynedd, cytunodd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych ar gynigion a fydd yn cadw’r rhan fwyaf o doiledau cyhoeddus y sir yn agored, diolch i gefnogaeth Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned.
Datblygwyd y cynigion gan nad oedd y cyllid a ddarperid i’r Cyngor yn cyd-fynd â’r gwasgfeydd ariannol a chostau cynyddol darparu gwasanaethau, yn enwedig gwasanaethau statudol fel gofal cymdeithasol ac addysg. Roedd hynny’n golygu bod llai o arian i’w wario ar wasanaethau “Creu Lleoedd”, fel toiledau cyhoeddus.
Er bod y Cyngor yn cydnabod mor bwysig yw toiledau cyhoeddus, darpariaeth anstatudol ydynt ac nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar awdurdodau lleol i’w darparu.
Serch hynny, gweithiodd y Cyngor gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned i greu dull cynaliadwy o ariannu a diogelu cymaint o gyfleusterau â phosib. Mae’r dull hwnnw’n cynnwys cyfraniadau ariannol uniongyrchol gan Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned.
I helpu Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned a Chyngor Sir Ddinbych i gadw’r toiledau ar agor, codir tâl am eu defnyddio.
Mae’r gwaith yma wedi cynnwys ailwampio rhai o’r toiledau a ddiogelwyd drwy gydweithio. Ariannwyd y gwaith drwy’r Gronfa Effaith Balchder Bro.
Y toiledau cyhoeddus diweddaraf i ailagor yn dilyn gwaith ailwampio yw toiledau Traeth Barkby Prestatyn a thoiledau Glan Afon Llangollen.
Mae’r gwaith ailwampio yn parhau yn y lleoliadau a ganlyn:
- Toiledau Cyhoeddus Princes Road, Rhuddlan – yn ailagor wythnos yn dechrau 7 Medi
- Toiledau Cyhoeddus Neuadd y Dref, y Rhyl – yn ailagor wythnos yn dechrau 5 Hydref
- Toiledau Cyhoeddus Ffordd Llys Nant, Prestatyn – yn cau ar 5 Hydref ac yn ailagor wythnos yn dechrau 2 Tachwedd
- Toiledau Cyhoeddus Llanelwy – yn cau ar 2 Tachwedd ac yn ailagor wythnos yn dechrau 30 Tachwedd
- Toiledau Cyhoeddus Heol y Farchnad, Llangollen – yn cau ar 4 Ionawr ac yn ailagor wythnos yn dechrau 1 Chwefror
- Toiledau Cyhoeddus Gerddi’r Coroni – yn cau ar 16 Tachwedd ac yn ailagor wythnos yn dechrau 14 Rhagfyr
Sylwch: Gall y dyddiadau uchod newid oherwydd tywydd neu ffactorau eraill.
Mae’r gwaith sy’n mynd rhagddo yng Nghae Ddôl, Rhuthun (wedi’i ariannu gan y Gronfa Adfywio Lleol) hefyd yn cynnwys ailwampio’r toiledau cyhoeddus, a fydd yn cael eu trosglwyddo i Gyngor Tref Rhuthun ar ddiwedd y gwaith. Tra bod y gwaith yn mynd rhagddo, mae cyfleuster dros dro ar gael yn y parc at ddefnydd y cyhoedd, yn rhad ac am ddim.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Diolch i’r ymdrechion cadarnhaol a’r cydweithio â’r cynghorau dinas, tref a chymuned, bu modd i ni gadw’r rhan fwyaf o doiledau cyhoeddus y sir ar agor. Bydd y rhaglen ailwampio yn darparu cyfleusterau llawer gwell i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
“Hoffwn ddiolch hefyd i bawb am eu cefnogaeth a’u hamynedd wrth i’r gwaith ailwampio fynd rhagddo.”
Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â thoiledau cyhoeddus a thaliadau mynediad yn Sir Ddinbych ar gael yma.