Awst 2026

12/08/2026

Diwrnod Tedis yn Dychwelyd i Dŷ a Gerddi Hanesyddol Nantclwyd y Dre

Yn dilyn llwyddiant ysgubol ei Ddiwrnod Tedis cyntaf erioed yn gynharach yr haf hwn, mae Nantclwyd y Dre yn falch iawn o gynnal y digwyddiad unwaith eto ddydd Iau 20 Awst, gan roi cyfle arall i deuluoedd fwynhau antur hanesyddol ar thema tedis cyn i’r tymor ysgol newydd ddechrau.

Bydd y Diwrnod Tedis yn cael ei gynnal rhwng 10:30am a 4:30pm (mynediad olaf am 3:30pm) yng ngerddi hardd y tŷ hanesyddol. Mae wedi'i gynnwys yn y pris mynediad arferol, ac mae mynediad am ddim i blant dan bump oed.

Gwahoddir ymwelwyr i ddod â'u tedis mwyaf anturus gyda nhw i archwilio'r gerddi hyfryd a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau llawn hwyl, yn cynnwys crefftau ar thema tedis, gemau lawnt traddodiadol a'r wifren sip tedis poblogaidd, a fu'n llwyddiant ysgubol yn y digwyddiad cyntaf.

Dywedodd Kate Thomson, Rheolwr Safle Nantclwyd y Dre:

“Roeddem ni wrth ein bodd gyda’r ymateb i’n Diwrnod Tedis cyntaf, ac yn falch o weld cymaint o ymwelwyr yn mwynhau’r gweithgareddau yr oeddem ni wedi’u paratoi ar eu cyfer nhw a’u tedis. Dywedodd nifer fawr o deuluoedd eu bod nhw wedi mwynhau’r diwrnod yn arw ac y bydden wrth eu bodd yn ei weld yn dychwelyd, felly roeddem ni’n gwybod bod rhaid i ni ei gynnal eto!”

Caiff teuluoedd eu hannog i ddod â'u hoff dedis ac i fwynhau diwedd gwyliau'r haf mewn ffordd gofiadwy yn amgylchedd unigryw Nantclwyd y Dre. Ni fydd angen archebu lle ymlaen llaw.

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae ein tîm Treftadaeth wedi bod yn gweithio’n galed i drefnu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau dros wyliau’r haf i’r teulu eu mwynhau. Roedd y Diwrnod Tedis cyntaf yn Nantclwyd y Dre yn llwyddiant ysgubol, ac mae'r tîm yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu hyd yn oed mwy o deuluoedd i'r digwyddiad nesaf.”

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych yn treftadaeth@sirddinbych.gov.uk 

Comments