05/08/2026
Codi sbwriel yn yr haf yn creu naws Nadoligaidd wrth ddod o hyd i rywbeth hynod ar y traeth

Cafodd criw o gasglwyr sbwriel yr haf hwn flas ar ysbryd y Nadolig wedi dod o hyd i ddarn syfrdanol o sbwriel.
Bu Tîm Perygl Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych a Chwmni Buddiant cymunedol Tyfu Prestatyn wrthi’n codi sbwriel ar Draeth Barkby ym Mhrestatyn yn ddiweddar. Darparwyd cyfarpar gan Cadw Cymru’n Daclus a’r Gymdeithas Gadwraeth Forol.
Llwyddodd criw o 14, gan gynnwys gwirfoddolwyr, i gasglu 11 o sachau o sbwriel o’r traeth, a oedd yn pwyso 18.5 cilogram yn ei grynswth.
Ymysg y pethau anarferol y daeth y grŵp ar eu traws oedd goleuadau Nadolig oedd yn dal yn gweithio, a sosban.
Meddai Claudia Smith, Swyddog Erydu Arfordirol a Pherygl Llifogydd: “Diolch i bawb a ymunodd â ni i godi sbwriel y tro hwn. Rydym oll yn gweithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael ag effaith sbwriel o’r môr yn yr ardal, yn enwedig yn ystod yr haf, gan y gall rwystro dyfrffyrdd a draeniau, atal llif y dŵr a chreu mwy o berygl o lifogydd yn lleol yn bellach i fyny’r afon.
Gall tynnu sbwriel o’r traeth hefyd gefnogi amddiffynfeydd naturiol fel glannau, twyni a dolydd morwellt gan eu bod yn gallu cynnal eu swyddogaeth naturiol fel amddiffynfeydd rhag y môr yn well. Mae digwyddiadau codi sbwriel fel hyn hefyd yn gwella’r amgylchedd i bobl leol ac ymwelwyr.”
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, yr Aelod Cabinet Arweiniol ar gyfer Priffyrdd a’r Amgylchedd: “Dyma enghraifft fendigedig o’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â grwpiau eraill a’r gwirfoddolwyr gwych yn lleol. At ei gilydd, mae hyn yn cyfrannu’n helaeth at reoli perygl llifogydd yn lleol oherwydd sbwriel o’r môr, gwarchod yr amgylchedd a gwneud lleoedd fel Traeth Barkby yn gymaint brafiach i bobl ddod yma a mwynhau.”