Awst 2026

14/08/2026

Gwaith adnewyddu sylweddol ar floc Ysgol Uwchradd Prestatyn bron a gorffen

Mae gwaith adnewyddu ar floc llawn yn ysgol fwyaf Sir Ddinbych bron a gorffen.

Bloc 2 Ysgol Uwchradd Prestatyn

Dechreuodd y gwaith ar Floc 2 yn Ysgol Uwchradd Prestatyn ym mis Mehefin a chafodd y bloc cyfan ei ail-fodelu’n llwyr.

Mae’r gwaith bron a gorffen o ran ailweirio, ail-sgimio ac ailosod tri dosbarth TG, dau ddosbarth economeg y cartref, dwy swyddfa, ystafell staff, a phum dosbarth arall.

Gwaith moderneiddio dosbarth TG

Bydd y gwaith, a wneir gan Bryn Build Ltd, yn golygu moderneiddio 12 ystafell.

Mae’r prosiectau’n cael eu harwain a’u rheoli gan Dîm Cynnal a Chadw Adeiladau y Cyngor.

Yn ogystal â moderneiddio’r ystafelloedd, mae’r offer a’r dechnoleg yn cael eu huwchraddio.

Gwaith moderneiddio dosbarth economeg y cartref

Mae’r gwaith adnewyddu wedi ei ddylunio ar y cyd ag athrawon yn yr ysgol, i sicrhau bod y dyluniad yn cyd-fynd â gweithrediadau o ddydd i ddydd y dosbarthiadau.

Mae’r cynllun newydd hefyd wedi ei ddylunio o amgylch dau lifft a osodwyd yn flaenorol, gan eu hintegreiddio yn well i’r adeilad a llif y dosbarthiadau.

Yn ogystal â’r gwaith adnewyddu’r bloc, mae’r dosbarth drama, sydd uwch ben neuadd yr ysgol, hefyd yn cael ei ailfodelu, gyda bloc lifft newydd sbon, wedi ei adeiladu a’i ychwanegu i sicrhau mynediad hygyrch i’r dosbarth a adnewyddwyd.

Bydd y prosiectau hyn yn cael eu trosglwyddo ym mis Medi, cyn i’r tymor ddechrau.

Mae’r prosiectau’n cael eu hariannu trwy Raglen Cynnal a Chadw Cyfalaf Ysgolion ynghyd â chefnogaeth gan Foderneiddio Addysg, gyda dros £600,000 yn cael ei fuddsoddi yn yr ysgol trwy’r prosiectau hyn.

Gwaith moderneiddio

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Mae’r prosiect enfawr hwn wedi ei glustnodi ac yna ei weithredu i foderneiddio bloc arall yn Ysgol Uwchradd Prestatyn.

Mae’r gwaith wedi bod yn helaeth, gydag ailweirio ac ail-ddylunio cyfan yn digwydd, gan olygu edrychiad newydd ffres a chyfleusterau o ansawdd uwch i floc prysur iawn yn yr ysgol.

Edrychaf ymlaen at weld y bloc yn agor ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd, ac i’r disgyblion a’r staff gael ei ddefnyddio.”

Comments