05/08/2026
Pobl yn dod ynghyd yn Rhuthun i drafod argyfwng yr hinsawdd a natur
Dydd Iau, 30 Gorffennaf, cynhaliodd Cyngor Sir Ddinbych ddau ddangosiad o’r ffilm ‘The People's Emergency Briefing’, ac yna bu trafodaethau am beth mae’r argyfwng hinsawdd a natur yn ei olygu i gymunedau lleol.
Roedd y dangosiadau’n rhan o raglen ehangach o ddigwyddiadau ledled y DU i helpu cymunedau i ymgysylltu â'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae’r naturiaethwr Chris Packham wedi cefnogi’r fenter ac mae wedi dweud, “Byddwn yn annog pobl ym mhobman i fynychu dangosiad o 'The People's Emergency Briefing'. Mae'r ffilm newydd hon yn arwain at y mathau o sgyrsiau gonest sydd ei hangen arnom ar frys nawr, yn ymwneud â'r bygythiad o ddadfeiliad yr hinsawdd a natur, ond hefyd ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud, gyda'n gwleidyddion, i adeiladu dyfodol gwell.”
Cynhaliwyd y dangosiad cyntaf yn Neuadd y Sir yn Rhuthun ar gyfer cynghorwyr sir ac uwch swyddogion gyda gwahoddiadau wedi eu gyrru hefyd i Aelodau’r Senedd yng Nghaerdydd a San Steffan sy’n cynrychioli etholaethau Sir Ddinbych. Mynychodd Becky Gittins, AS Dwyrain Clwyd, y digwyddiad gan gymryd rhan yn y drafodaeth oedd yn canolbwyntio'n benodol ar rolau'r ddwy lefel o lywodraeth; y Cynllun Datblygu Lleol; a’r gefnogaeth sydd ei angen ar fusnesau ac ysgolion lleol.
Cynhaliwyd ail ddangosiad cyhoeddus yn yr Ystafell Ymgynnull yn Neuadd y Dref Rhuthun a wnaeth ddenu dros 50 o bobl. Ymysg y materion dan drafodaeth oedd deunyddiau i ysgolion, gwydnwch amaethyddol a bwyd, bioamrywiaeth, cyfleoedd i fusnesau, a sut gall cymunedau barhau â'r sgwrs ac ymgysylltu â chynrychiolwyr etholedig.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth a’r Cefnogwr Bioamrywiaeth: “Roedden ni'n teimlo ei bod yn bwysig bod cynrychiolwyr lleol yn cael y cyfle i glywed y drafodaeth sy'n digwydd yn yr ystafell. Un o'r teimladau cryfaf yn yr ystafell oedd rhyddhad — bod materion roedd llawer o bobl wedi bod yn poeni'n dawel amdanynt ers amser maith o'r diwedd yn cael eu trafod yn agored, yn glir ac ar y cyd. Yr hyn oedd yn sefyll allan oedd pa mor gyflym y symudodd y drafodaeth o bryder i gwestiynau ymarferol ynglŷn â beth y gallai'r bobl yma ei wneud gyda'i gilydd nesaf”
Ychwanegodd Jane Hodgson, Rheolwr Newid Hinsawdd Cyngor Sir Dinbych: “Roedden ni’n falch iawn o ba mor barod oedd pobl i aros, siarad, a gwrando ar ei gilydd wedyn. Dangosodd y trafodaethau fod llawer o bobl yn gwerthfawrogi cael lle i archwilio’r materion hyn. Yr hyn a safodd allan oedd yr egni sy’n dod pan fydd pobl yn gallu wynebu gwybodaeth anodd a gweithio gyda’i gilydd, yn hytrach na theimlo eu bod nhw’n cario’r baich ar eu pennau eu hunain.”
Dymuna’r cyngor ddiolch i'r cynulleidfaoedd a gymerodd ran yn y trafodaethau a'r hwyluswyr gwirfoddol o Hinsawdd Cymru, Cyfeillion y Ddaear a'r Gynghrair Seicoleg Hinsawdd a roddodd o'u hamser yn hael.
Gallwch weld ble mae ‘r ffilm yn cael ei dangos ar y ddolen ganlynol - https://www.nebriefing.org/screening-map