12/08/2026
Pobl ifanc yn trawsnewid GORSAF VIBE gyda gwaith celf newydd
Mae pobl ifanc yn y Rhyl wedi helpu i drawsnewid GORSAF VIBE gyda gwaith celf newydd a lliwgar, gan rannu eu syniadau am lesiant a’r hyn y mae’r gofod yn ei olygu iddynt cyn gweithio ochr yn ochr â’r artist DIME i wireddu eu gweledigaeth.
Cafodd y prosiect, a gyflwynwyd drwy wasanaeth llesiant Sir Ddinbych yn Gweithio, Barod, ei gynllunio i roi cyfle i bobl ifanc chwarae rhan weithredol yn y gwaith o lunio amgylchedd GORSAF VIBE. Cawsant eu gwahodd i ystyried beth mae llesiant yn ei olygu iddynt a rhannu eu meddyliau a’u syniadau, a helpodd i lunio themâu’r gwaith celf.
Gall celf gynnig ffordd amgen i bobl fynegi teimladau, cyfathrebu ac archwilio syniadau, yn enwedig pan all fod yn anodd rhoi meddyliau mewn geiriau. Drwy ddefnyddio creadigrwydd fel rhan o’r prosiect, roedd y bobl ifanc yn gallu cyfrannu mewn ffordd wahanol, gan ddatblygu mwy o ymdeimlad o berchnogaeth dros y gofod ar yr un pryd.
Mae’r gwaith celf gorffenedig, a grëwyd drwy greadigrwydd, cynllunio a gwaith tîm, yn dathlu GORSAF VIBE a’r bobl a’r gymuned y mae’n eu cefnogi.

Cyn

Ar ôl
Dywedodd Jen Dutton, Arweinydd Llesiant a Gwydnwch (Barod):
“Mae’r gwaith celf yn adlewyrchiad o’r hyn y mae GORSAF VIBE yn ei gynrychioli. Wedi’i greu drwy greadigrwydd, cynllunio a gwaith tîm, mae’r neges ‘Dewch o hyd i'ch llwybr’ yn cyfleu ein hymrwymiad i helpu trigolion Sir Ddinbych i ddarganfod eu cryfderau, magu hyder a dod o hyd i’r llwybr sy’n iawn iddynt.
“Rydym yn hynod falch o’r hyn y mae’r bobl ifanc wedi’i gyflawni ac o’r egni a’r lliw y maent wedi’u hychwanegu at GORSAF VIBE.”
Dywedodd yr artist DIME, a fu’n gweithio gyda’r bobl ifanc yn ystod y prosiect:
“Cefais ddiwrnod gwych yn gweithio gyda’r tîm a’r bobl ifanc yng NGORSAF VIBE. Roedd yn wych eu gweld yn greadigol ac yn cymryd rhan.”
Mae’r prosiect yn amlygu sut y gall gweithgareddau creadigol gefnogi llesiant, gan roi cyfle i bobl ifanc gyfrannu at y mannau o’u cwmpas a gweld eu syniadau’n troi’n rhywbeth pendant.
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, neu i drefnu atgyfeiriad, cysylltwch â thîm Working Denbighshire ar 01745 331438 neu drwy e-bostio sirddinbychyngweithio@sirddinbych.gov.uk.
Mae manylion sesiynau sydd ar ddod a gwybodaeth am archebu lle hefyd ar gael drwy Eventbrite.
Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU a thrwy nifer o raglenni, gan gynnwys Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, Menter ‘Trailblazer’ y DU a Chymru, y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF), a Cysylltu â Gwaith.