Mehefin 2026

25/06/2026

Cydnabyddiaeth i’r Cyngor â gwobr Platinwm genedlaethol ar gyfer rhagoriaeth data

Mae timau Gwytnwch Cymunedol a Systemau Busnes Cyngor Sir Ddinbych wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith trwy gyflawni statws Platinwm ar gyfer Data Cyfeiriadau a Strydoedd yng Ngwobrau Enghraifft Batrymol GeoPlace.

Mae’r wobr hon yn dathlu’r safonau uchel a gynhelir gan awdurdodau lleol i reoli gwybodaeth cyfeiriadau a strydoedd, sy’n chwarae rôl hanfodol o ran cefnogi gwasanaethau effeithiol ac effeithlon ar gyfer preswylwyr, busnesau a chymunedau.

Dyma’r bumed flwyddyn yn olynol y mae’r Cyngor wedi cyflawni lefel Platinwm, sy’n cydnabod yr ymrwymiad parhaus i gywirdeb, cysondeb a gwelliant parhaus mewn maes o fewn y Cyngor sy’n aml yn arbenigol ac yn llai amlwg.

Gan gydweithio’n agos, mae cydweithwyr o fewn y timau Gwytnwch Cymunedol a Systemau Busnes yn rheoli dyletswyddau Cyfeiriadau a Strydoedd y Cyngor, gan sicrhau fod y wybodaeth hanfodol am leoliadau’n cael ei chynnal yn ofalus ac ar gael i gefnogi ystod eang o wasanaethau.

Mae’r Gwobrau Enghraifft, a gynhelir gan GeoPlace, yn amlygu rôl bwysig ceidwaid a swyddogion awdurdod lleol yn cynnal cyfeiriadau a strydoedd o ansawdd uchel.  Rhoddir y Wobr Platinwm i awdurdodau sydd wedi cynnal statws Aur ar draws holl feini prawf yr Atodlen Gwella Blynyddol am 10 allan o 11 mis hyd at ddiwedd mis Mawrth 2026.

Mae data lleoliadau cywir yn cefnogi popeth o brosiectau trawsnewid a chynlluniau gwasanaeth i welliannau system hanfodol.  Trwy gynnal y cronfeydd data hyn i safon uchel, bydd y timau’n helpu i sicrhau bod modd darparu gwasanaethau’n fwy effeithiol a bod cymunedau’n elwa o wybodaeth ddibynadwy a chydlynol.

Meddai’r Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Cydraddoldeb, Polisi a Strategaeth Gorfforaethol ac Asedau Strategol: “Mae hyn yn gyflawniad gwych ac yn gydnabyddiaeth haeddiannol o’r arbenigedd, ymrwymiad a’r gwaith partneriaeth o fewn ein timau Gwytnwch Cymunedol a Systemau Busnes.  Mae llawer o’u gwaith yn digwydd y tu ôl i’r llenni, ond mae’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd ac effeithlonrwydd gwasanaethau ar draws y Cyngor.”

Meddai’r Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau:

“Mae cyflawni statws Platinwm am y bumed flwyddyn yn olynol yn gyflawniad arbennig gan bawb sydd ynghlwm â hyn.  Efallai nad yw data cyfeiriadau a strydoedd cywir yn amlwg i breswylwyr bob amser, ond mae’n rhan hanfodol o nifer o’r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt bob dydd.  Mae’r gydnabyddiaeth hon yn arwydd o ymrwymiad y Cyngor i gynnal gwybodaeth o ansawdd uchel sy’n ein helpu i gynllunio, darparu a gwella gwasanaethau ar gyfer ein cymunedau, gan sicrhau fod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol a bod preswylwyr yn derbyn y gefnogaeth orau bosibl.”

 

Comments