Mehefin 2026

05/06/2026

Tîm priffyrdd yn cael cefnogaeth cerbyd mwy gwyrdd

Mae cerbyd newydd yn helpu i gyflawni gwaith priffyrdd mawr ar draws Sir Ddinbych a siroedd cyfagos.

Mae Adran Fflyd Cyngor Sir Ddinbych wedi gweithio i gaffael cerbyd Priffyrdd newydd i helpu i gefnogi gwaith mawr gan staff yn yr adran yn well mewn modd mwy effeithlon a hirdymor i arbed costau.

Mae gan yr adran bellach fynediad at Citroën Ë-C5 Aircross sy'n darparu dros 400 o filltiroedd, sy’n cynnig arbedion hirdymor ar gostau rhedeg ac ôl troed carbon is o ganlyniad i’r ffaith nad oes allyriadau yn dod o’r bibell mwg.  Mae hwn wedi dod yn lle cerbyd Priffyrdd sy'n cael ei bweru gan danwydd ffosil sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes.

Yr Adran Briffyrdd sy’n gyfrifol am gynnal a chadw ac atgyweirio 1,400 cilomedr o ffyrdd yn Sir Ddinbych. Mae staff yn cynnal rhaglen wedi ei chynllunio o waith i gynnal a gwella ffyrdd y sir, sy’n amrywio o atgyweirio tyllau i gynlluniau mawr i roi wyneb newydd ar ffyrdd.

Bydd y cerbyd hwn yn cael ei ddefnyddio gan dîm prosiectau mawr yr adran Briffyrdd i fynd i gyfarfodydd, ymweld â safleoedd ar gyfer arolygon ac archwiliadau, a goruchwylio gwaith adeiladu.

Bu i Gyngor Sir Ddinbych ddatgan argyfwng hinsawdd ac argyfwng ecolegol yn 2019 ac ers hynny mae wedi symud i ddefnyddio cerbydau di-allyriadau yn ei fflyd. Ar hyn o bryd, mae dros 20% o’r cerbydau yn ei fflyd yn gerbydau di-allyriadau.

Wrth i’r cerbydau sy’n defnyddio tanwydd ffosil gyrraedd diwedd eu hoes, mae Adran Fflyd y Cyngor wedi bod yn cyflwyno rhai trydan, gyda chefnogaeth sylweddol gan adrannau Llywodraethau Cymru a’r DU, er mwyn helpu i gwtogi ar yr allyriadau a gynhyrchir a lleihau costau hirdymor o ran milltiroedd a chynnal a chadw ar draws yr holl wasanaethau y mae ein fflyd yn eu cyflenwi ac i leihau’r ddibyniaeth ar gerbydau gydag injan diesel neu betrol.

Mae staff y Cyngor sy’n defnyddio cerbydau trydan hefyd yn cymryd rhan mewn pecyn hyfforddi gan yr Adran Fflyd, sy’n cynnwys sut i ddefnyddio isadeiledd gwefru cerbydau trydan yn ddiogel ac yn effeithlon, gwneud defnydd o systemau brecio atgynhyrchiol, a phryd i ddewis ‘dull gyrru’ yn seiliedig ar yr amodau neu lwythi.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Bydd yr ychwanegiad hwn at y tîm prosiectau mawr yn eu helpu nhw i gyflawni eu gwaith a sicrhau costau hirdymor is ar gyfer milltiroedd a gwaith cynnal a chadw rheolaidd.”

 

 

 

Comments