09/06/2026
Pobl ifanc yn cael eu cefnogi drwy raglen SKITTLES
Mae prosiect partneriaeth unigryw yn helpu pobl ifanc ledled Sir Ddinbych i feithrin hyder, ennill cymwysterau a datblygu sgiliau bywyd cadarnhaol drwy raglen ddatblygu bersonol arloesol chwe wythnos.
Mae prosiect SKITTLES, sy’n cael ei arwain gan Wasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych, yn cefnogi pobl ifanc 16 - 18 oed o bob rhan o’r sir sy’n profi digartrefedd, sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, yn ymddieithrio oddi wrth addysg, neu sydd mewn perygl o gymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a’r system cyfiawnder troseddol.

Caiff y rhaglen ei darparu mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Cymdeithas Ambiwlans Sant Ioan a Sir Ddinbych yn Gweithio. Mae’n rhoi cyfle i hyd at 12 o bobl ifanc ennill cymwysterau gwerthfawr, profiad ymarferol a mwy o hyder ynddynt eu hunain.
Dros gyfnod o chwe wythnos, mae’r cyfranogwyr yn gweithio gyda’i gilydd fel tîm wrth gwblhau amrywiaeth o gyrsiau a gweithgareddau achrededig. Mae’r rhain yn cynnwys cymhwyster Hylendid Bwyd Lefel 2 a ddarperir drwy Sir Ddinbych yn Gweithio, cymhwyster Cymorth Cyntaf Sylfaenol Lefel 3 a ddarperir gan Gymdeithas Ambiwlans Sant Ioan, a chymhwyster Agored Lefel 1 sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau tân ac egwyddorion diogelwch tân drwy raglen Phoenix Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys sesiynau ar berthnasoedd iach, gweithgareddau adeiladu tîm a phrosiectau cymunedol, gan helpu pobl ifanc i ddeall yn well effaith a chanlyniadau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae dau Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu wedi’u hymgorffori yn y rhaglen i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad ychwanegol drwyddi draw.
Fel rhan o’r rhaglen ddiweddaraf, cwblhaodd y grŵp brosiect cymunedol yng ngorsaf VIBE newydd gyda Sir Ddinbych yn Gweithio, gan helpu i adael cyfraniad cadarnhaol a pharhaol er budd eraill yn y dyfodol.
Daeth y rhaglen i ben gyda digwyddiad dathlu arbennig yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, lle derbyniodd y cyfranogwyr dystysgrifau o flaen aelodau eu teuluoedd, gofalwyr, cynghorwyr a chynrychiolwyr yr Awdurdod Tân.

Dywedodd Jo-anne Seddon, Gweithiwr Ymyrraeth wedi’i Thargedu ar gyfer Digartrefedd yng Nghyngor Sir Ddinbych: “Mae prosiect SKITTLES yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc na fyddent efallai byth yn eu cael fel arall. Mae’n ymwneud â llawer mwy na chymwysterau yn unig – mae’n eu helpu i ddatblygu hyder, gwydnwch, gweithio mewn tîm ac ymddiriedaeth, gan roi’r gefnogaeth a’r anogaeth sydd eu hangen arnynt i wneud dewisiadau cadarnhaol ar gyfer eu dyfodol.
“Mae’r gwaith partneriaeth sy’n rhan o’r rhaglen hon yn wych ac yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau’n dod ynghyd i gefnogi pobl ifanc yn ein cymunedau.”
Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros Addysg, Plant a Theuluoedd: “Mae hon yn rhaglen ysbrydoledig sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc ledled Sir Ddinbych.
“Mae prosiect SKITTLES yn rhoi sgiliau ymarferol, cymwysterau cydnabyddedig a phrofiadau bywyd gwerthfawr i’r cyfranogwyr, tra hefyd yn eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu cynnwys a’u gwerthfawrogi. Hoffwn ddiolch i’r holl bartneriaid sy’n rhan o’r gwaith am eu hymrwymiad a’u hymroddiad i helpu pobl ifanc i gyrraedd eu potensial.”
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am brosiect SKITTLES, cysylltwch â Jo-anne Seddon drwy e-bost: Jo-anne.seddon@sirddinbych.gov.uk.