Mehefin 2026

22/06/2026

Llwyddiant i Sir Ddinbych yng Ngwobrau Arfer Da TPAS Cymru

Mae'r Cyngor yn dathlu llwyddiant ar ôl i ddau brosiect sy'n canolbwyntio ar y gymuned gael eu cydnabod yng Ngwobrau Arfer Da TPAS Cymru 2026, a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Marriott yng Nghaerdydd.

Mae'r gwobrau'n dathlu rhagoriaeth mewn ymgysylltu â thenantiaid, cynnwys y gymuned a gwasanaethau tai ledled Cymru, gan gydnabod prosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau tenantiaid a phreswylwyr.

Yn y llun o'r chwith i'r dde: Melanie Evans, Paula Pritchard, Luisa Citra, Kerry Humphries, Karen Armstrong, Margi Lovegrove, Heidi McDougall and Tina Foulkes

Enwyd Rhaglen Cymorth Llesiant a Chyflogadwyedd Sir Ddinbych yn Gweithio yn enillydd Gwobr y Rhaglen Cymorth/Cyngor i Breswylwyr, gan gydnabod yr effaith sylweddol y mae'r gwasanaeth wedi'i chael wrth gefnogi preswylwyr i oresgyn rhwystrau, gwella eu llesiant a chael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r rhaglen wedi cefnogi cannoedd o breswylwyr sy'n byw mewn tai cyngor a thai cymdeithasol trwy fentora un-i-un wedi'i deilwra, ymyriadau llesiant a chymorth cyflogadwyedd. Mae'r rhaglen wedi helpu preswylwyr i feithrin hyder, gwella gwydnwch a symud tuag at ganlyniadau cadarnhaol, gan gynnwys cyflogaeth, hyfforddiant a llesiant gwell.

Dywedodd Melanie Evans, Rheolwr Gwasanaeth Cyflogaeth Strategol, wrth ennill y wobr:

“Mae’n anrhydedd fawr i mi dderbyn y wobr hon, ond mae wir yn perthyn i’r tîm anhygoel rwy’n cael y fraint o weithio gyda nhw bob dydd. Mae ein dull wedi bod yn syml erioed: rydym yn edrych y tu hwnt i amgylchiadau pobl ac yn canolbwyntio ar eu potensial. Mae gan bob tenant gryfderau, talentau a dyheadau, a phan fydd rhywun yn credu ynddynt ac yn agor y drysau cywir, gall pethau rhyfeddol ddigwydd.

“Rydym wedi gweld pobl yn tyfu mewn hyder, yn darganfod cyfleoedd newydd ac yn cyflawni nodau yr oeddent unwaith yn meddwl eu bod allan o gyrraedd. Nid yw’r llwyddiannau hynny’n ymwneud â dod o hyd i waith yn unig, maent yn ymwneud ag adfer gobaith, annibyniaeth ac ymdeimlad o bwrpas. Mae’r wobr hon yn dathlu ymroddiad, tosturi a chred ddiysgog ein tîm, sydd byth yn rhoi’r gorau i weld y person y tu ôl i’r broblem a’r posibilrwydd y tu ôl i bob her.”

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd a Thaclo Amddifadedd:

"Rwyf wrth fy modd bod Rhaglen Cymorth Llesiant a Chyflogadwyedd Sir Ddinbych yn Gweithio wedi derbyn y gydnabyddiaeth haeddiannol hon. Mae'r wobr yn dyst i'r ymroddiad, y proffesiynoldeb a'r tosturi a ddangoswyd gan y tîm, sy'n gweithio'n ddiflino i gefnogi trigolion sy'n wynebu ystod eang o heriau.

"Mae'r rhaglen yn newid bywydau trwy helpu pobl i feithrin hyder, gwella eu lles a chael mynediad at gyfleoedd a all gael effaith gadarnhaol barhaol ar eu dyfodol. Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth o'r gwahaniaeth y gall cymorth ei wneud pan gaiff ei deilwra i'r unigolyn a'i gyflwyno gyda gofal a dealltwriaeth."

Gwelodd y noson hefyd lwyddiant i Brosiect Tyfu Rhodfa Myddleton yn Ninbych Uchaf, a ddyfarnwyd yn ail yn y categori ‘Ymgysylltu Tenantiaid mewn Mentrau / Prosiectau Amgylcheddol’.

Mae’r prosiect wedi trawsnewid man gwyrdd heb ei ddefnyddio’n ddigonol yn ardd gymunedol lewyrchus, gan ddod â thrigolion ynghyd i dyfu bwyd, dysgu sgiliau newydd a chryfhau cysylltiadau cymunedol. Mae’r fenter wedi creu lle croesawgar a chynhwysol sy’n hyrwyddo lles, yn lleihau unigedd ac yn annog cyfranogiad cymunedol.

Roedd Prosiect Tyfu Rhodfa Myddleton a fynychodd y gwobrau wrth eu bodd gyda’u gwobr ail a dyma beth oedd gan rai o’r grŵp i’w ddweud:

Dywedodd Kerry: “Roedd yn anhygoel ac yn anrhydedd bod yno. Roedd y noson gyfan yn hudolus.”

Ychwanegodd Karen: “Mae wedi bod yn wych gweld beth sy’n digwydd ledled y wlad a’r holl brosiectau gwahanol.”

Tra dywedodd Margi: “Mae wedi bod yn ysbrydoledig bod yn rhan o ddigwyddiad dydd a nos fel ‘na a dysgu gan eraill. Mae wedi bod yn wych gweld pawb yn dathlu gyda’i gilydd a llwyddiannau ei gilydd.

“Fel arfer, rydych chi’n brysur yn gweithio ar brosiectau ac nid oes gennych chi amser i edrych ar yr hyn y mae pawb arall yn ei wneud. Mae'n gwneud y cyfan yn werth chweil gweld pethau'n cael eu cydnabod a'u dathlu. Rydw i wedi dod adref gyda llawer o syniadau newydd ac ysbrydoliaeth.”

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau:

"Mae derbyn gwobr enillydd a gwobr ail safle mewn digwyddiad cenedlaethol yn gamp wych i Sir Ddinbych a phawb sy'n gysylltiedig.

"Hoffwn longyfarch y trigolion, gwirfoddolwyr, staff a phartneriaid sydd wedi cyfrannu at y ddau brosiect. Mae llwyddiant Prosiect Tyfu Rhodfa Myddleton yn dangos y pethau anhygoel y gellir eu cyflawni pan fydd cymunedau'n dod at ei gilydd.

"Mae'r gwobrau hyn yn arddangos cryfder gweithio mewn partneriaeth ar draws Sir Ddinbych a'n hymrwymiad i gefnogi cymunedau gwydn a gwella bywydau ein trigolion."

Mae llwyddiant y gwobrau yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Sir Ddinbych i weithio ochr yn ochr â thrigolion, cymunedau a phartneriaid i ddarparu gwasanaethau a mentrau sy'n creu newid cadarnhaol parhaol ar draws y sir.

Comments