Mehefin 2026

08/06/2026

Pwyntiau Siarad Sir Ddinbych i gynnwys sesiynau galw heibio i ofalwyr di-dâl fel rhan o Wythnos Gofalwyr

Bydd Pwyntiau Siarad o amgylch Sir Ddinbych yn cynnwys sesiynau galw heibio i ofalwyr di-dâl Sir Ddinbych drwy gydol Wythnos Gofalwyr yr wythnos hon, gydag aseswyr gofalwyr yn mynychu sesiynau Pwyntiau Siarad yn ystod yr wythnos ymwybyddiaeth.

Mae'r gefnogaeth a gynigir gan wasanaeth Pwyntiau Siarad drwy Lywiwyr Cymunedol y Groes Goch Brydeinig yn eang ei chyrhaeddiad, ac mae paru hyn â chymorth a chyngor gan aseswyr gofalwyr yn caniatáu i ofalwyr di-dâl gael cefnogaeth ar ystod eang o bynciau.

Dyma leoliadau ac amseroedd y Pwyntiau Siarad:

Bob dydd Llun (ac eithrio gwyliau banc) - Llyfrgell Llanelwy, 10:00am – 12.30pm

Bob dydd Mawrth - Llyfrgell y Rhyl a Llyfrgell Rhuthun, 10:00am – 12.30pm

Bob dydd Mercher - Llyfrgell Dinbych a Llyfrgell Corwen, 10:00am – 12.30pm

Bob dydd Iau - Llyfrgell Llangollen, 10:00am – 12.30pm

Bob dydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) - Llyfrgell Prestatyn a Llyfrgell Rhuddlan, 10:00am – 12.30pm

Bydd y sesiynau hyn yn caniatáu i ofalwyr di-dâl ddysgu am y gefnogaeth sydd ar gael yn eu hardaloedd lleol, heb orfod teithio ar draws y sir i gael mynediad at gefnogaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Nid yw gofalu am anwylyd bob amser yn hawdd, a dyna pam ei bod hi’n bwysig bod gofalwyr yn gwybod at ble y gallant droi am gefnogaeth.

Yn ystod Wythnos Gofalwyr, byddwn yn annog unrhyw un sy’n gofalu am aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog i alw heibio i un o’r sesiynau hyn a darganfod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael ledled Sir Ddinbych.”

Comments