18/06/2026
Plant yn dewis enwau ‘fantastig’ ar gyfer fflyd y Gwasanaeth Ceidwaid Chwarae


Mae plant ysgol gynradd wedi helpu i ddod â bywyd i fflyd sy’n dod a chyfleoedd chwarae i bobl ifanc ledled Sir Ddinbych.
Mae gan dair o faniau fflyd y Gwasanaeth Ceidwaid Chwarae hunaniaeth newydd diolch i gystadleuaeth sy’n cael ei chynnal ar draws ysgolion i roi enw iddynt.
Yn gweithredu o ganolfan y Dderwen yn y Rhyl, mae’r gwasanaeth yn darparu mynediad agored i gyfleoedd chwarae ar draws y sir gan ddefnyddio ei fflyd o dair o faniau, sy’n cynnwys dau gerbyd trydan.
Ymunodd fan e-Scudo Fiat â’r ddau gerbyd Partner Peugeot eleni, gydag un yn gerbyd trydan, er mwyn rhoi hwb i Fflyd y Ceidwaid Chwarae. Cefnogwyd y cerbyd newydd gan gyllid o Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a Grantiau Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan.
Mae’r cerbyd trydan ychwanegol yn helpu Gwasanaeth y Ceidwaid Chwarae i deithio milltiroedd mwy gwyrdd a chyflawni costau llai o ran cynnal a chadw ar gyfer cynnal y cynllun.
Bu i Gyngor Sir Ddinbych ddatgan argyfwng hinsawdd ac argyfwng ecolegol yn 2019 ac ers hynny mae wedi symud i ddefnyddio cerbydau di-allyriadau yn ei fflyd. Ar hyn o bryd, mae dros 20% o’r cerbydau yn ei fflyd yn gerbydau di-allyriadau.
Diolch i’r ysgolion buddugol, Ysgol Melyd, Gellifor ac Ysgol Gynradd Wirfoddol Llanelwy, mae’r tair fan yn cael eu hadnabod fel ‘Myfanwy’, ‘Vantastic’, a ‘The Play Ranger Rover’.

Cafodd pob un o’r tair ysgol ymweliad gan y fan a enwyd ganddynt yn ystod Diwrnod Cenedlaethol Chwarae a gynhaliwyd yn ddiweddar.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Da iawn i’r plant am ddewis enwau ffantastig ar gyfer y fflyd bwysig hon o faniau. Mae’r tair yn dod â hapusrwydd a hwyl i gymaint o blant ledled y sir, ac mae’n braf gweld y bobl ifanc yn rhoi yn ôl i’r gwasanaeth o ran rhoi hunaniaeth a chymeriad i’r faniau pan maent allan ar ffyrdd Sir Ddinbych.”