01/06/2026
Glanhau sbwriel morol o draeth y Rhyl

Llenwyd naw bag o sbwriel morol yn ystod sesiwn gasglu sbwriel mewn ardal boblogaidd o draeth y Rhyl.
Ar ôl ymdrin â’r traethau ger maes parcio Dwyrain Nova a thraeth Barkby ym Mhrestatyn, trefnodd Dîm Perygl Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych ddigwyddiad ar gyfer ardaloedd arfordirol o gwmpas Pafiliwn y Rhyl.
Gall sbwriel morol greu rhwystrau mewn dyfrffyrdd a draeniau, gan atal llif y dŵr, gan arwain at fwy o berygl o lifogydd yn lleol yn bellach i fyny’r afon.
Mae casglu sbwriel morol o’r traethau yn cefnogi amddiffynfeydd naturiol gan y gall traethliniau, twyni a dolydd morwellt gynnal eu swyddogaeth naturiol fel amddiffynfeydd yn erbyn y môr.
Bu tîm o 10, oedd yn cynnwys gwirfoddolwyr, Cadwch Gymru'n Daclus a’r tîm risg llifogydd, yn gweithio i lenwi naw bag o sbwriel. Roedd nifer yn cynnwys caniau diodydd ac fe wnaethant hyd yn oed glirio tarpolin oddi ar y traeth.
Cafodd y digwyddiad yn y Rhyl ei gefnogi hefyd gan Cadwch Gymru’n Daclus a bu iddynt ddarparu rhywfaint o’r offer casglu sbwriel.

Meddai Claudia Smith, Swyddog Erydu Arfordirol a Pherygl Llifogydd: “Rydym wedi cael ymateb mor arbennig eto gan wirfoddolwyr sydd wedi ymroi i wneud gwahaniaeth i draethau’r ardal yma. Drwy ymdrechion pawb, bydd llai o berygl o lifogydd lleol a difrod i'r amgylchedd a bywyd gwyllt morol hefyd ar ôl casglu’r sbwriel.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, yr Aelod Cabinet Arweiniol ar gyfer Priffyrdd a’r Amgylchedd: “Mae’r grŵp ymroddedig yma wedi gwneud gwahaniaeth mawr i leihau sbwriel morol ym Mhrestatyn ac mae’n wych eu gweld nhw’n mynd i’r afael ag ardal y traeth ger Pafiliwn y Rhyl. Mae angen i ni barhau i reoli’r perygl o lifogydd lleol oherwydd sbwriel morol yn golchi i fyny ar ein traethau sy’n gwanhau’r amddiffyniad rhag llifogydd.”