11/06/2026
Y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect parc poced y Rhyl

(Argraff arlunydd o Barc Poced Porth y Rhyl)
Ar ôl cael caniatâd cynllunio yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Ddinbych yn symud ymlaen i gam nesaf y prosiect.
Roedd y Cyngor wedi gweithio gyda datblygwyr lleol yn y gorffennol i archwilio atebion posibl ar gyfer y safle. Fodd bynnag, heb unrhyw ddewis hyfyw a dirywiad parhaus yr adeiladau, prynodd y Cyngor yr adeiladau yn 2022 cyn eu dymchwel yn rhannol â chefnogaeth gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Yn 2025, cafodd Cyngor Sir Ddinbych bron i £20 miliwn o gyllid grant gan Lywodraeth y DU ar gyfer saith prosiect cyfalaf i wella balchder bro a’r amgylchedd naturiol yn y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.
Yn rhan o'r gwaith gwella ehangach i bromenâd a pharth cyhoeddus y Rhyl, cynigiodd y Cyngor y syniad o gyflwyno parc poced ac ymgynghorodd â thrigolion y llynedd.
Cafodd y cynigion ar gyfer y safle eu llunio gan waith ehangach ‘Gweledigaeth y Rhyl’, a oedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd amgylchedd o ansawdd uchel i’r dref, a’r Rhyl yw un o’r mannau â’r lefelau isaf o orchudd canopi coed yng Nghymru.
Rhoddwyd ystyriaeth ychwanegol i sut y bydd y gofod yn cael ei ddefnyddio a’i ofalu amdano yn yr hirdymor. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gweithio ochr yn ochr â phartneriaid i sicrhau bod dyluniad y parc poced yn amgylchedd diogel a chroesawgar i bawb.
Yn rhan o baratoi'r cam nesaf, bydd tu mewn yr adeiladau'n cael ei glirio'n ddiogel cyn i unrhyw waith dymchwel ddechrau. Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau ddydd Mercher 17 Mehefin.
Bydd y cam nesaf yn cynnwys penodi contractwr dymchwel, ac mae'r broses hon bellach yn cael ei pharatoi. Cynlluniwyd i’r gwaith dymchwel a'r prif waith adeiladu ddechrau ar ôl cyfnod yr haf, er mwyn lleihau unrhyw darfu ar fusnesau lleol, ymwelwyr a thraffig dros fisoedd yr haf.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae’r prosiect hwn yn rhan o’r gwaith ehangach i gefnogi gwaith adfywio parhaus yn y Rhyl. Mae'r lleoliad yn borth allweddol i'r Rhyl, ac mae symud a disodli hen adeilad adfeiliedig â man gwyrdd deniadol a hygyrch yn rhan o’r cynlluniau.
“Bydd y Cyngor yn parhau i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf wrth i’r prosiect fynd rhagddo ac mae’n annog trigolion a busnesau i ddilyn sianeli swyddogol i gael y wybodaeth ddiweddaraf”.

(Parc Poced Porth y Rhyl yn y nos)