Mehefin 2026

11/06/2026

Prosiectau Gwella Tai yn cael eu harddangos yn ystod teithiau o’r sir

Ymunodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, Helen White, a’r Pennaeth Tai a Chymunedau, Heidi McDougall, dimau Tai ac Eiddo Cymunedol yn ddiweddar, ynghyd â’r Aelod Arweiniol ar gyfer Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Rhys Thomas, ar gyfres o deithiau ar draws y sir i weld drostyn eu hunain yr ystod eang o welliannau i dai, datblygiadau newydd a phrosiectau cymunedol sy’n cael eu darparu i breswylwyr.

Roedd yr ymweliadau’n rhoi cyfle i arddangos buddsoddiad yng nghartrefi presennol y Cyngor, cynnydd ar ddatblygiadau tai newydd, ac effaith gadarnhaol gwytnwch cymunedol a mentrau amgylcheddol.

Cynhaliwyd y daith gyntaf, yng ngogledd y sir ym mis Ebrill, ac roedd hi’n cynnwys ymweliad i Gwynfryn Avenue, y Rhyl, lle gwnaed gwelliannau sylweddol ar dai i deuluoedd yn yr ardal. Mae’r gwaith wedi canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd ynni, a chynyddu cynhyrchiad ynni adnewyddadwy, gan helpu preswylwyr i leihau costau ynni, a chreu cartrefi mwy cynaliadwy. Cafodd y grŵp gyfle i weld eiddo gwag hefyd, er mwyn gweld safon uchel y gwaith ailwampio sy’n cael ei gwblhau cyn ei drosglwyddo i’n tenantiaid newydd.

Aeth y daith ymlaen i Barc Bruton, y Rhyl, lle cafodd cyfleusterau cymunedol sy’n cael eu datblygu mewn partneriaeth gyda Gwasanaethau Gwytnwch Cymunedol a Chefn Gwlad eu hamlygu, cyn symud i Thornley Avenue i weld y gwaith parhaus o roi to newydd ar y cynllun yn ogystal â gosod paneli ffotofoltäig.

Arddangosodd ymweliad i Lys Llen, Prestatyn, gartrefi cyngor a adeiladwyd o’r newydd am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd, gydag ymweliadau pellach i Orllewin y Rhyl yn arddangos y dulliau o weithio er mwyn darparu tai, gan gynnwys trawsnewid gofod swyddfa i gartrefi o safon uchel, a’r gwaith o ailwampio eiddo Fictoraidd mawr i lety modern i deuluoedd.

Cynhaliwyd yr ail daith ym mis Mai, a oedd yn canolbwyntio ar dde’r sir. Dechreuodd yr ymweliad yng Nghanolfan Gymunedol Pengwern, lle rhannodd staff o Bartneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych gwybodaeth am yr ystod eang o weithgareddau a gwasanaethau cefnogi sydd ar gael i breswylwyr lleol.

Yna, teithiodd y grŵp i Glawdd Poncen, Corwen, i ymweld â Llygadog, cynllun tai i bobl hŷn, lle arddangoswyd gwelliannau diweddar i’r adeilad, y gerddi, a chyfleusterau cymunedol, ynghyd â’r gweithgareddau sy’n helpu preswylwyr i gynnal eu lles corfforol a’u cyswllt.

Daeth y daith i ben yn Ninbych, gydag ymweliad i’r cartrefi newydd yn Llwyn Eirin, cyn ymweliad olaf yn Lloyd Avenue i weld eiddo a ailwampiwyd yn ddiweddar, a’r cyfleuster trac pwmpio poblogaidd, sy’n darparu gofod hamdden gwerthfawr i blant a phobl ifanc leol.

Meddai Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Rhys Thomas:  “Roedd yr ymweliadau hyn yn gyfle gwych i weld y gwahaniaeth cadarnhaol mae ein buddsoddiad yn ei wneud i gymunedau ledled Sir Ddinbych drosom ein hunain. O wella’r ansawdd ac effeithlonrwydd ynni cartrefi presennol y cyngor i ddarparu tai fforddiadwy newydd a chefnogi mentrau a arweinir gan y gymuned, rydym wedi ymrwymo i greu lleoedd lle gall pobl ffynnu.

“Roedd hi’n arbennig o galonogol cwrdd â staff a phartneriaid sy’n helpu i gyflawni’r prosiectau hyn, ac i weld y manteision maent yn cynnig i breswylwyr. Mae’r ystod o waith sy’n cael ei gynnal ledled y sir yn arddangos ein hymrwymiad i ddarparu cartrefi o safon uchel, mynd i’r afael â heriau’r hinsawdd, ac adeiladu cymunedau cryfach, mwy gwydn ar gyfer y dyfodol.”

Amlygodd yr ymweliadau hyd a lled y buddsoddiad sy’n cael ei gynnal ledled Sir Ddinbych, o wella cartrefi presennol, ac adeiladu tai newydd i gefnogi cymunedau cryfach, mwy gwydn.

Mae’r gwaith yn cefnogi blaenoriaeth yn ein Cynllun Corfforaethol hefyd, o ran sicrhau bod gan Sir Ddinbych ddigon o dai o safon sy’n diwallu anghenion pobl.

 

Comments