Mehefin 2026

01/06/2026

Lansio llwyddiannus Gorsaf VIBE yn nodi dechrau cynnig cymorth newydd yn Y Rhyl

Mae gwaith lansio Gorsaf VIBE gan Sir Ddinbych yn Gweithio wedi dod â phreswylwyr, partneriaid a gwasanaethau at ei gilydd ar gyfer diwrnod a oedd yn canolbwyntio ar les, cymorth a chyfleoedd.

Wedi’i gynnal ar 29 Mai yn Y Rhyl, fe groesawodd y digwyddiad dros 120 o fynychwyr, gan gynnwys cynghorwyr lleol, sefydliadau partner a gwasanaethau cymunedol, i gyd yn dod at ei gilydd i brofi’r lle newydd a’r hyn sydd i’w gynnig.

Mae Gorsaf VIBE wedi’i datblygu fel lle gall pobl gael mynediad at gymorth ar unrhyw gam o’u taith, gan ganolbwyntio ar les, hyder a chynnydd tuag at gyflogaeth. Roedd y lansiad yn nodi dechrau’r dull newydd hwn, gan ddangos sut y bydd yr orsaf yn dod â gwasanaethau ynghyd mewn un lleoliad hygyrch a chroesawgar.

Drwy gydol y diwrnod, cafodd ymwelwyr gyfle i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau, gan gynnwys y cyfle i helpu i greu fersiwn LEGO o bont enwog Claude Monet, Bridge over a Pond of Water Lilies, a fydd yn cael ei harddangos yng Ngorsaf VIBE, yn ogystal â sesiynau peintio “Parod, Cyson, Crefft” a chornel gofnodi yn cyflwyno ffyrdd syml y gall cadw dyddiadur gefnogi lles a hunan-fyfyrdod.

Gwnaeth y digwyddiad hefyd dynnu sylw at bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth, gan annog sefydliadau i archwilio cyfleoedd i ddarparu gwasanaethau, gweithgareddau a chymorth o’r lle hwn fel rhan o’i rôl fel Sylfaen Integredig Weledol ar gyfer Cyflogaeth.

Dywedodd Melanie Evans, Prif Reolwr Cyflogaeth Strategol:
“Mae’r ymateb i Orsaf VIBE wedi bod yn eithriadol, gyda nifer gwych o bobl yn bresennol ac adborth cadarnhaol dros ben o’r diwrnod cyntaf. Mae’r lansiad wedi bod yn gam cyntaf hanfodol wrth gyflwyno lle sy’n canolbwyntio ar les fel rhan o’r daith tuag at gyflogaeth. Mae’n amlwg bod diddordeb cryf gan breswylwyr a phartneriaid, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddatblygu’r cynnig a chefnogi pobl i symud ymlaen ar eu cyflymder eu hunain.”

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae lansio Gorsaf VIBE yn garreg filltir bwysig i’r Rhyl ac i Sir Ddinbych. Mae’n dangos ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn pobl a chreu cymorth hygyrch yn y gymuned. Dim ond y dechrau yw hyn, ac rydym yn edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd y lle hwn yn ei chael wrth iddo ddatblygu.”

Bydd Gorsaf VIBE bellach yn dechrau ar ei rhaglen weithgareddau parhaus, gan gynnig mynediad i breswylwyr at gymorth lles, cyfleoedd hyfforddi ac arweiniad un-i-un.

Anogir partneriaid a sefydliadau i barhau i ymgysylltu â Sir Ddinbych yn Gweithio i archwilio sut y gallant fod yn rhan o Orsaf VIBE a chyfrannu at ddull mwy unedig o ddarparu cymorth ar draws y gymuned.

Mae cefnogaeth un i un Sir Ddinbych yn Gweithio am ddim, ac ar gael i unrhyw un 16+ oed sy’n byw yn Sir Ddinbych sy’n dymuno cymorth i symud ymlaen.

Gall preswylwyr ddysgu mwy ar ein gwefan.  

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU a sawl rhaglen arall, gan gynnwys Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, menter Trailblazer Cymru-DU sy’n targedu anweithgarwch economaidd, Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU (UKSPF), a Chysylltu â Gwaith.

Comments