18/06/2026
Partneriaeth yn cyfarfod i gryfhau strategaeth economaidd Sir Ddinbych

Mae partneriaeth newydd yn benodol ar gyfer gweithredu Strategaeth Economaidd Sir Ddinbych 2025-2035 wedi cyfarfod yn ddiweddar am y tro cyntaf.
Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ar 23 Medi, bydd y strategaeth economaidd newydd yn disodli’r Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol 2013 - 2023 flaenorol ac yn cyfrannu tuag at ‘Sir Ddinbych Ffyniannus’, sy’n un o flaenoriaethau corfforaethol y Cyngor.
Yn cynnwys budd-ddeiliaid sy’n rhannu diddordeb yn nyfodol economaidd Sir Ddinbych, bu i’r bartneriaeth gyfarfod yn ddiweddar i drafod y strategaeth economaidd newydd a sut i ddatblygu economi’r sir trwy wella mynediad at gyflogaeth ac incwm o ansawdd a sicrhau bod twf economaidd yn helpu i ostwng anghydraddoldeb a thlodi ar draws Sir Ddinbych.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae’r bartneriaeth newydd hon yn allweddol wrth sicrhau cyflawniad strategaeth economaidd Sir Ddinbych, sy’n cynnwys strategaeth twf newydd uchelgeisiol a chyffrous, a fydd yn cefnogi datblygiad economaidd y Sir yn y dyfodol ac yn gweithio tuag at un o’n blaenoriaethau corfforaethol i gyflawni Sir Ddinbych Ffyniannus.
“Mae’r bartneriaeth yn cynnwys aelodau o fusnesau lleol, y llywodraeth, y trydydd sector a’r sector addysg, oll â diddordeb personol yn nyfodol Sir Ddinbych.
“Tra bod y bartneriaeth hon yn newydd, bydd ei chynnal wrth i’r canolbwynt symud i weithredu yn hanfodol. Bydd angen ymdrech ar y cyd gan bartneriaid o fewn y Sir a thu hwnt, er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau ar y cyd”.