23/11/2026
Coeden gynhenid brin yn cael hwb ar gyfer y dyfodol gan dîm y blanhigfa

Mae coeden brin sydd wedi rhoi ysbrydoliaeth ar gyfer enw llawer o dafarndai’r DU yn mynd i gael hwb yn Sir Ddinbych y dilyn haf poeth.
Mae Planhigfa Goed Cyngor Sir Ddinbych yn Llanelwy wedi cael gafael ar aeron o’r cerddin gwylltion sydd ar ôl yn y sir i alluogi’r tîm i dyfu mwy o’r coed cynhenid prin hyn.
Mae’r blanhigfa goed yn Green Gates Farm, Llanelwy, yn cynhyrchu planhigion blodau gwylltion cynhenid a choed cynhenid. Bydd coed a phlanhigion a dyfir yn y blanhigfa yn y pen draw yn mynd yn ôl i gefn gwlad i hybu bioamrywiaeth.
Dim ond mewn ychydig o leoliadau anghysbell ledled Sir Ddinbych y mae’r gerddinen i’w gweld. Yn hanesyddol fe’i gelwir hefyd yn goeden ‘chequers’ yn Saesneg oherwydd ffrwythau’r goeden y dywedir eu bod yn blasu’n debyg i ddatys ac a roddid i blant yn y gorffennol fel fferins.
Yn draddodiadol gwneid diod feddwol debyg i gwrw wedi ei eplesu o ffrwythau’r goeden, a chredir bod hyn wedi ysbrydoli pobl i roi’r enw ‘Chequers’ ar nifer o dafarndai ledled Prydain.
Mae’r haf poeth wedi helpu’r cerddin gwylltion i gynhyrchu mwy o hadau, sy’n rhoi’r cyfle i’r blanhigfa coed cynhenid fwrw ymlaen gyda thyfu mwy o goed ar ôl dau dymor o brinder hadau yn 2024 a 2025.
Meddai Keegan Blazey, Swyddog yn y Blanhigfa Goed: “Yma yn y blanhigfa fe lwyddasom dros ddwy flynedd yn ôl i gynhyrchu dros 200 o goed cerddin gwylltion ar ôl cynaeafu’r aeron o’r lleoliadau yn y sir i gael yr hadau pwysig hyn.
“Yn dilyn hyn, mae yna brinder wedi bod yn niferoedd aeron y coed, ond mae tywydd poeth eleni wedi bod o gymorth mawr i gynhyrchu cnwd da o aeron. Casglwyd rhai o’r rhain a byddant yn mynd drwy’r broses yma yn y blanhigfa er mwyn plannu gyda’r gobaith o gynyddu niferoedd y goeden brin hanesyddol hon.”
Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r tîm yn y blanhigfa’n gweithio’n galed er budd dyfodol coed cynhenid lleol ac mae’r gwaith hwn yn bwysig er mwyn diogelu’r gerddinen wyllt. Drwy’r ymdrech hon gallwn helpu i roi hwb i niferoedd y goeden brin hon ar diroedd lleol er mwyn ei chynorthwyo i ffynnu unwaith eto.”