Tachwedd 2026

24/11/2026

Disgyblion yn rhoi gobaith i natur yn yr ysgol

Mae disgyblion Ysgol Plas Cefndy wedi rhoi help llaw i natur ar dir yr ysgol.

Gweithiodd y disgyblion yn ddiweddar gyda thîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych i greu dôl blodau gwylltion newydd a fydd yn darparu bwyd a lloches i ystod o fywyd gwyllt lleol o amgylch yr ysgol.

Yn ystod y sesiwn dan arweiniad y tîm Bioamrywiaeth, chwaraeodd y disgyblion rôl ymarferol, gan baratoi'r tir, plannu'r blodau gwyllt a dysgu sut mae dolydd yn bwysig i natur leol oroesi a ffynnu.

Gyda’r tîm, plannodd y disgyblion 110 o blanhigion blodau gwyllt i greu dwy ardal flodau gwyllt lai, un ym mlaen ac un yng nghefn eu hysgol.

Bydd eu gwaith o gymorth i drawsnewid rhan o dir yr ysgol yn ardal allanol liwgar ar gyfer natur a dysgu.

Mae’r blodau gwylltion a blannwyd gan y disgyblion yn cynnwys clafrllys, lluglys gwyn, meillionen hopysaidd, clust y gath, blodau pengaled, crafanc brân y gweunydd, ytbysen y ddôl, llygad llo mawr, gludlys coch, meillion coch, amranwen, y feddyges las, cribau’r pannwr, moronen y meysydd a milddail.

Wrth i’w dôl newydd ddatblygu, bydd yn helpu i gynnal peillwyr fel gwenyn, gan roi ardal ychwanegol i’r disgyblion ysgol yn yr awyr agored lle gallant arsylwi ar fywyd gwyllt a dysgu am bwysigrwydd cynefinoedd iach.

Cyflenwyd yr holl flodau gwylltion gan blanhigfa goed Cyngor Sir Ddinbych, sydd gerllaw Llanelwy.

Meddai Ellie Wainwright, Swyddog Bioamrywiaeth: “Fe wnes i fwynhau gweithio gyda’r disgyblion i’w helpu i greu eu dôl newydd. Daethant â llawer o frwdfrydedd i’r gwaith plannu, ac rydym yn awyddus i ganfod sut y bydd y blodau gwylltion a dyfwyd yn ein planhigfa goed o fudd i fywyd gwyllt lleol a’r gymuned ehangach o amgylch eu hysgol.

“Gallant oll fod yn falch iawn o’r cynefinoedd y maent wedi ei greu ar gyfer y planhigion, peillwyr a mathau eraill o fywyd gwyllt ar dir eu hysgol.”

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Hoffwn ddiolch i ddisgyblion a staff Ysgol Plas Cefndy am weithio’n galed i greu’r ddôl newydd hon ar dir eu hysgol ac am groesawu ein tîm Bioamrywiaeth i’w helpu i ddatblygu’r cynefin pwysig hwn.

“Bydd eu gwaith yn cefnogi bywyd gwyllt ar dir yr ysgol a natur leol, a bydd yn rhoi lle gwych iddyn nhw ddysgu am bwysigrwydd helpu ein bioamrywiaeth i ffynnu.”

Comments